Datganiadau i'r Wasg

Cadwch y plant rhag diflasu dros hanner tymor!

Gyda gwyliau hanner tymor yr hydref ar ein pennau, bydd Amgueddfa Genedlaethol Glannau yn darparu rhaglen llawn hwyl i ddiddanu’r teulu cyfan.

Bydd yr hwyl yn dechrau ar ddydd Sul 23 Hydref gyda chyfle i Fynd â Mynydd Adre Gyda Chi, gweithdy ymarferol, creadigol i blant 7-11 oed. Ysbrydolwyd y gweithdy gan y model anferth o ddalgylch afon ym mhrif neuadd yr Amgueddfa, a bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu ffeithiau diddorol am fapiau a newid yn y tirwedd a gwneud model bychan i fynd adre gyda chi.

Bydd Plantos y Glannau yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener 28 Hydref, sesiwn galw draw sy’n ddelfrydol ar gyfer plant rhwng 18 mis a 5 mlwydd oed. Bydd y sesiwn fisol yn cynnwys gweithgareddau ymarferol fel crefftau a chyfle i gydganu. Cynhelir y sesiynau am 10.30am a 1.30pm.

Fel rhan o’n paratoadau at ?yl Calan Gaeaf, bydd cyfle i deuluoedd gymryd rhan yn Darluniau Mawr o Fwystfilod Bach ar ddydd Sadwrn 29 a dydd Sul 30 Hydref fel rhan o’r Ymgyrch Genedlaethol dros Ddarlunio. Bydd cyfle i bawb sy’n mynychu ddefnyddio chwyddwydrau a microsgopau er mwyn tynnu lluniau mawr o greaduriaid anhygoel o fach. Sesiwn galw draw rhwng 12pm a 4pm.

Wrth siarad am y gweithgareddau, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: “Gyda’r tywydd yn oeri, dyma gyfle gwych i ymweld â ni lle gall y teulu cyfan fanteisio ar ein rhaglen hwyliog, greadigol, rad ac am ddim.”