Datganiadau i'r Wasg

Elizabeth Fritsch yn dychwelyd i Gaerdydd

Dau gaffaeliad ychwanegol i gasgliad Cymru o gerameg gyfoes

 

Yn dilyn arddangosfa boblogaidd y llynedd i ddathlu pen-blwydd y cerflunydd Cymreig adnabyddus Elizabeth Fritsch yn 70, bydd cyfle i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fwynhau arddangosiad o gerameg cyfoes yn cynnwys gwaith gan yr artist a anwyd yng Nghymru.

Diolch i gefnogaeth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, mae Amgueddfa Cymru wedi caffael dau ddarn newydd gan Elizabeth Fritsch, sy’n rhan o arddangosiad newydd yn yr Amgueddfa. Mae powlen Optegol gyda Rhimyn wedi torri, 1974 a Fâs Gwrthbwynt mewn Deuddeg Tôn, 1975 yn costio £20,800 ac yn esiamplau pwysig o waith cynnar Fritsch, ac anaml y daw esiamplau o’r fath i’r farchnad.

Esboniodd Andrew Renton, Pennaeth Celf Gymwys Amgueddfa Cymru pam fod arddull Fritsch mor unigryw:

"Mae Elizabeth Fritsch yn artist cyfoes mawr, ac mae ei gwaith yn apelio at y llygaid a’r meddwl. Mae agweddau allweddol o arddull Fritsch i’w gweld yn y ddau waith newydd hwn, o’r ffurfiau manwl gywir, pensaernïol wedi’u hadeiladu â llaw a’r arwyneb tebyg i ffresgo sydd wedi’i beintio a’i weithio mor drylwyr, i’r diddordeb dwys mewn rhythm cerddorol, effeithiau optegol a pherthnasedd lliw soffistigedig.

"Rwy’n si?r y byddant yn apelio at ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd."

Dywedodd Stephen Deuchar o’r Art Fund, "Mae’r Art Fund yn ymrwymedig i gefnogi amgueddfeydd ac orielau i brynu, arddangos a rhannu celf er mwyn i bawb eu mwynhau. Mae’r darnau newydd yma gan Elizabeth Fritsch yn engreifftiau gwych o gaffaeliadau sydd yn nodedig yn rhanbarthol ac yn genedlaethol fydd yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn gan ymwelwyr."

 

?

 

Fritsch oedd y cyntaf o genhedlaeth o wneuthurwyr cerameg rhagorol i raddio o’r Coleg Celf Brenhinol yn y 1970au cynnar. Symudodd Fritsch oddi wrth y prif ddull o greu cerameg wedi’i droi ar olwyn gan ddatblygu ei steil nodedig wedi’i seilio ar dechneg adeiladu â llaw a dull unigryw o liwio a pheintio mewn tri dimensiwn. Mae ganddi enw da fel artist unigryw a phwysig drwy ei gwaith gyda ffurfiau ‘2½ dimensiwn’, sy’n creu rhithiau gweledol ac yn chware ag opteg wahanol.

 

Ganwyd Fritsch i deulu cerddorol Cymreig ar y ffin â Swydd Amwythig. Dysgodd chwarae’r piano a’r delyn gan feithrin ei thalent i safon uchel ac mae ei chariad at gerddoriaeth yn amlwg yn y ffigurau rhythm cymhleth sydd wedi’u peintio ar ei llestri. Dywed yr artist bod y ffigurau rhythm yma, a seiliwyd ar gridiau crwm sy’n dilyn ffurf pob darn unigol â chywirdeb mathemategol, yn "cyfateb i amseriad a rhythm cerddoriaeth" a cant eu defnyddio i bwysleisio strwythur dynamig ffurf benodol.