Datganiadau i'r Wasg

Y Glannau'n paratoi am benwythnos llawn rygbi

Bydd bwrlwm Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei ailgynnau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau’r penwythnos hwn gyda digwyddiad rygbi arbennig i ddiddori’r teulu cyfan.

Ar ddydd Sadwrn 5 a dydd Sul 6 Tachwedd, bydd yr Amgueddfa’n troi’n nefoedd i gefnogwyr rygbi gyda pherfformiadau corawl, gweithgareddau celf a chrefft i blant ac ymweliad arbennig gan ddyfarnwr Cymru yng Nghwpan y Byd, Nigel Owens.

Ar ddydd Sul 6 Tachwedd am 2pm, bydd Nigel yn adrodd hanesion difyr o reng flaen rygbi rhyngwladol yn cynnwys sawl digwyddiad doniol o gemau rygbi, tripiau tramor a’i yrfa fel diddanwr oddi ar y cae.

Mae gan Nigel yrfa ddisglair ar y cae, fel dyfarnwr yng Nghwpan Heineken  ac fel yr unig ddyfarnwr o Gymru yng Nghwpan y Byd 2007 a 2011. Mae’n un o ddau ddyfarnwr sydd wedi ennill y fraint o gael dyfarnu dwy rownd derfynol Cwpan Heineken yn olynol.

Yn dilyn y sgwrs, bydd Nigel yn rhoi cyngor dyfarnu ymarferol a bydd cyfle iddo arwyddo copïau o’i hunangofiant – Hanner Amser – fydd ar werth yn y siop.

Bydd cyfle i ymwelwyr yn ystod y penwythnos fwynhau dau gôr yn canu caneuon traddodiadol. Bydd Côr Rygbi’r Gweilch yn perfformio ar ddydd Sadwrn am 2pm gyda Côr Rygbi Treforys yn perfformio ar ddydd Sul am 1pm. Bydd cyfle i blant arddangos eu sgiliau creadigol drwy’r penwythnos a gallant ddylunio tlws a chrys-t yn y gweithdai galw draw o 11am-2pm.

Wrth siarad am ddigwyddiadau’r penwythnos, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu Nigel Owens i’r Amgueddfa ar ddydd Sul ac at ddigwyddiad llawn hwyl yn gyffredinol.

“Yn dilyn bwrlwm Cwpan y Byd eleni, bydd yn gyfle gwych i ymwelwyr glywed yr hanes gan rywun gafodd y fraint o gymryd rhan ym mhinacl camp sydd mor boblogaidd yn genedlaethol, yn ogystal â mwynhau adloniant ar thema rygbi.”

Bydd gweithgareddau yn ystod y penwythnos yn cynnwys Ffair Grefftau Bae Abertawe o 10am a 4pm a gweithdy crefft Creu a thrwsio i oedolion ar dydd Sadwrn am 1.30 (rhaid archebu lle ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad hwn).

Nodiadau i olygyddion

Mae croeso i aelodau’r wasg, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970 os ydych yn bwriadu ymweld.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe