Datganiadau i'r Wasg

Arandora Star yn boblogaidd gyda disgyblion ysgol Abertawe

Roedd plant ysgol o bob cwr o’r ddinas wrth eu boddau â’r amgueddfa am hanes trychineb yr SS Arandora Star; Wales Breaks its Silence…Memories to Memorial.

Roedd yr arddangosfa, a ddaeth i ben ddechrau’r wythnos hon, yn adrodd hanes suddo’r llong SS Arandora Star ym 1940. Collodd 53 o Gymry o dras Eidalaidd eu bywydau ar fwrdd y llong tra’n cael eu cludo i wersylloedd rhyfel yng Nghanada ar orchymyn Llywodraeth Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Crëwyd yr arddangosfa gan yr Arandora Star Memorial Fund in Wales, gan gyflwyno casgliad o ffotograffau yn adlewyrchu peth o hanes yr Eidalwyr a ymsefydlodd yn ne Cymru, ynghyd â hanesion personol rhai a oroesodd ac erthyglau papur newydd angerddol yn rhoi manylion y gw?r a foddodd.

Dros y mis diwethaf, mae dros 4,500 o ddisgyblion ysgolion cynradd a 250 o fyfyrwyr sy’n astudio tuag at Fagloriaeth Cymru wedi ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i gymryd rhan mewn gweithdai ynghlwm â’r arddangosfa a’u hastudiaethau am gaffis Eidalaidd yng nghymoedd a threfi diwydiannol de Cymru.

Gan weithio’n agos hefyd ag Amgueddfa Abertawe a Theatr na n'Óg, cafodd disgyblion hefyd gyfle i ddysgu mwy am fywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a gweld y cwmni o Gastell-nedd yn perfformio drama ddiddorol. Seiliwyd y ddrama ar stori wir, gan ddilyn Lina, a welodd ei thad yn cael ei arestio a’i lusgo o’i gaffi, cyn cael ei gludo i wersyll rhyfel yng Nghanada ar fwrdd yr Arandora Star. Mae’r ddrama yn cael ei pherfformio yn Theatr Dylan Thomas gyda’r cynhyrchiad olaf ar ddydd Gwener 18 Tachwedd.

Dywedodd Swyddog Addysg Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Mandy Westcott: “Cawson ni ymateb anhygoel i’r gweithgareddau addysg a gynlluniwyd i ategu’r arddangosfa. Rhwng yr Amgueddfa, Amgueddfa Abertawe a Theatr na n'Óg, mae’r rhaglen wedi galluogi disgyblion a myfyrwyr i ddysgu mwy am hanes yr Arandora Star a’r Ail Ryfel Byd yn gyffredinol. Mae wedi ychwanegu elfen wahanol i’w hastudiaethau dosbarth ac rydym wrth ein bodd â’r ymateb.” 

Wrth siarad am rôl Theatr na n'Óg, Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig, Geinor Styles: “Rydyn ni wedi bod yn perfformio dramâu i bobl ifanc yn yr ardal ers dros 30 mlynedd, ac mae’r project hwn, fel nifer o rai eraill, yn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn digwyddiad diwylliannol sy’n ehangu eu haddysg. Mae’r ymateb i’r cynhyrchiad a’r gweithgareddau a grëwyd gan y ddwy amgueddfa wedi bod yn anhygoel ac mae’r project yn un unigryw yng Nghymru, os nad y DU.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Am ragor o wybodaeth am Theatr na n'Óg, cysylltwch â Geinor Styles ar 01639 641771.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe