Datganiadau i'r Wasg

Alun yn dal ati

Fel arfer, wrth gyrraedd 65 oed byddwn ni’n barod i ffarwelio â byd gwaith a pharatoi am ymddeoliad hir a hapus, ond nid Alun Jones!

Alun, o West Cross, fydd yr aelod staff cyntaf yn Amgueddfa Cymru i gymryd mantais o’r newid i’r ddeddfwriaeth oed ymddeol newydd a gyflwynwyd ar 1 Hydref, a pharhau i weithio wedi troi’n 65.

Dathlodd Alun ei ben-blwydd yn 65 ar ddydd Iau 6 Hydref, ac mae wedi treulio dros 14 mlynedd yn gweithio i Amgueddfa Cymru. Ymunodd â’r sefydliad am y tro cyntaf ym 1997 fel Gofalwr yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, cyn dod yn rhan o dîm newydd fel Uwch Gynorthwy-ydd Orielau ar agoriad Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Hydref 2005.

“Rydw i wrth fy modd o fedru parhau i weithio yn yr Amgueddfa,” meddai Alun.  “Rwy’n mwynhau dod i’r gwaith gan fod pob diwrnod yn wahanol, ac rwy’n cyfarfod pobl newydd neu gynorthwyo i drefnu digwyddiadau ac arddangosfeydd.“

Mae Alun yn frwd dros ddiwylliant a threftadaeth, ac nid yn yr Amgueddfa yn unig – yn ddiweddar cwblhaodd gwrs tywys twristiaid Swansea Bay Celtic Wave ac mae bellach yn dywysydd swyddogol Bae Abertawe. “Roedd yn gwrs heriol, ond mae wedi talu yn y pen draw gan ei fod wedi’n paratoi ni’n llawn i ddangos yr ardal ryfeddol hon o Gymru i grwpiau a thwristiaid mordaith.”

“Mae brwdfrydedd Alun dros Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac amgueddfeydd yn gyffredinol heb ei ail,” meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris. “Mae’n rhoi o’i orau yn ei swydd yn ddi-ffael ac yn lledu’n henw da ni yn y ddinas a thu hwnt. Mae’n aelod gwych o’r tîm ac rydyn ni wrth ein boddau ei fod wedi penderfynu aros gyda ni am beth amser eto.”

Dywedodd Lynda Shickell, rheolwr llinell Alun: “Mae ymroddiad a chefnogaeth Alun i’r tîm blaen t? a phob adran arall yn amhrisiadwy. Ei hiwmor gwahanol, ei ystyriaeth a’i hyblygrwydd yw’r sment sy’n dal y tîm ynghyd.”

Yn ei amser sbâr, mae Alun yn mwynhau ymweld ag atyniadau amrywiol ar draws y byd – mae’n arbennig o hoff o ymweld ag Amgueddfeydd Cenedlaethol yr Alban ac mae’n treulio sawl penwythnos yn edmygu orielau’r Amgueddfa Brydeinig, y Tate a’r V&A.

Cyn ymuno ag Amgueddfa Cymru, treuliodd Alun dros 25 mlynedd yn gweithio fel athro celf mewn ysgolion uwchradd yn Llundain, Hastings a De Cymru.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth neu i drefnu tynnu lluniau, cysylltwch â Marie Szymonski ar 01792 638970.

Cyflwynodd Amgueddfa Cymru bolisi ymddeol newydd yn dilyn cyflwyno Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Diddymu Darpariaeth Oed Ymddeol) 2011. O 1 Hydref 2011, nid oes gan yr Amgueddfa oed ymddeol gorfodol – mae oed ymddeol bellach yn ddewis i’r unigolyn ac nid i’r sefydliad.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe