Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn penodi dau Ymddiriedolwr newydd

Mae Llywydd Amgueddfa Cymru, Elisabeth Elias, wedi cyhoeddi penodiad dau Ymddiriedolwr newydd, yr Athro Robert Pickard a Dr Glenda Jones ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mehefin 2012 a 31 Mai 2016.

Dywedodd Llywydd Amgueddfa Cymru, Mrs Elisabeth Elias:

"Rwy’n croesawu’r ddau benodiad ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’r Athro Robert Pickard a Dr Glenda Jones pan fyddant yn dechrau ar eu gwaith fel Ymddiriedolwyr fis Mehefin nesaf. Bydd yr Athro Pickard a Dr Jones yn medru rhoi o’u profiadau newydd a helaeth."

Mae’r Athro Robert Pickard yn Athro Emeritws Niwrofioleg ym Mhrifysgol Caerdydd, Athro Ymweliadol yn y Coleg Amaethyddol Brenhinol ac yn Gymrawd y Gymdeithas Fioleg a’r Gymdeithas Feddyginiaeth Frenhinol. Bu gynt yn Gadeirydd Fforwm Corff Anllywodraethol Sefydliad Brenhinol Iechyd y Cyhoedd ac Adran Iechyd y DU; Cadeirydd Cymdeithas Defnyddwyr y DU, Which?; Cyfarwyddwr Cyffredinol y Sefydliad Maeth Prydeinig a Chadeirydd Tasglu Rhagweld Llywodraeth y DU, Food's Contribution to Health in the Future. Gwasanaethodd hefyd ar y Grŵp Gorchwyl Gweinidogol Bwyd a Ffitrwydd i Blant a Phobl Ifanc, Panel Arbenigol Canllawiau Bwyd Ysgol gydag Ymddiriedolaeth Caroline Walker a Chyngor EuroFIR. Mae’r Athro Pickard yn darparu cyngor gwyddonol i’r cyfryngau cyfathrebu ac amrywiaeth eang o sefydliadau; yn adrodd yn ôl i’r Gweinidog Ynni yn San Steffan a Gweinidogion yr Amgylchedd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ac mae hefyd yn Ymgynghorydd Annibynnol i Gomisiwn Cynulliad Cymru. Mae hefyd yn awdurdod rhyngwladol ar fioleg gwenyn mêl ac yn Llywydd Cymdeithas Gwenynwyr Caerdydd a Chymdeithas Ganolog y Gwenynwyr.

Wedi graddio mewn llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth parhaodd Dr Glenda Jones â’i hastudiaethau yn y coleg ger y lli drwy astudio Cymraeg Canol. Treuliodd gyfnod yng Ngholeg St Ioan, Caergrawnt hefyd ac ym 1991 cwblhaodd ei doethuriaeth. A chanddi dros 20 mlynedd o brofiad ym myd teledu, treuliodd Glenda 15 mlynedd yn gweithio i'r BBC yng Nghaerdydd yn yr Adran Cynhyrchu Teledu, gan gychwyn fel ymchwilydd teledu. Treuliodd 10 mlynedd yn Uwch Gynhyrchydd i'r Gorfforaeth gyda chyfrifoldeb dros y ddrama ddyddiol Pobol y Cwm. Yn 2000, dechreuodd weithio ar ei liwt ei hun ym maes cyfryngau a chyfathrebu. Gweithiodd ar nifer o brojectau cynhyrchu yn y sector annibynnol gan ddarparu cynnyrch ar gyfer S4C. Yn ystod yr wyth mlynedd diwethaf mae Dr Jones wedi cynyddu ei gwaith yn y maes hyfforddi a hyrwyddo ar gyfer cleientiaid yn y sector preifat a chyhoeddus. Mae hi’n arolygydd lleyg i Estyn, ac fe’i phenodwyd yn aelod o Awdurdod S4C ym mis Ebrill 2010.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol ar (029) 2057 3185 / 07920 027067 neu drwy ebostio catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk.

Nodiadau i olygyddion

Y broses benodi

Ni chaiff aelodau'r Bwrdd dâl am eu gwaith, ond caiff unrhyw gostau teithio a chostau cynhaliaeth rhesymol eu had-dalu. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn a disgwylir i'r Ymddiriedolwyr fod yn aelodau o is-bwyllgorau hefyd.

Sefydlwyd Amgueddfa Genedlaethol Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1907, ac mae'n parhau'n endid cyfreithiol ac yn elusen o dan yr enw hwn. Mae'n elusen gofrestredig annibynnol, ac yn derbyn ei chyllid craidd drwy grant cymorth oddi wrth Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Prif nod yr Amgueddfa yw ‘hyrwyddo ac addysgu'r cyhoedd' drwy ddatblygu mynediad i'r casgliadau, gofalu amdanynt, eu hastudio a thrwy eu cynnal er lles y gymdeithas am byth. Mae'r Siartr yn nodi y caiff hyn ei gyflawni ‘yn bennaf drwy ddangos yn gyflawn ddaeareg, mwynoleg, sŵoleg, botaneg, ethnograffeg, archaeoleg, celf, hanes a diwydiannau arbennig Cymru drwy gasglu, gwarchod, esbonio, cyflwyno a chyhoeddi pob gwrthrych a pheth o'r fath'.

O dan Siarter atodol 2006, mae gan yr Amgueddfa 16 o Ymddiriedolwyr. Mae Gweinidogion Cymru yn penodi naw o Ymddiriedolwyr, sy'n cynnwys y Llywydd a'r Is-Lywydd. Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa yn penodi saith o Ymddiriedolwyr sy'n cynnwys y Trysorydd. Mae Llywodraeth Cymru a'r Amgueddfa'n ymgynghori â'i gilydd wrth wneud pob penodiad. Caiff yr Is-Lywydd ei benodi gan y Gweinidog yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

Caiff pob unigolyn ei benodi ar sail teilyngdod ac ni chaiff gweithgarwch gwleidyddol ei ystyried yn y broses ddethol. Eto i gyd, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyn i weithgarwch gwleidyddol unigolion a benodir (os cânt eu datgan) gael ei gyhoeddi.