Datganiadau i'r Wasg
Yr Amgueddfa dan ofal disgyblion lleol
Dyddiad:
2011-11-15Ar ddydd Gwener 11 Tachwedd, bydd myfyrwyr o Goleg Castell-nedd Port Talbot yn cau eu gwerslyfrau ac yn eu cyfnewid am wrthrychau hanesyddol wrth iddyn nhw dyrru i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Caiff y gweithgareddau eu trefnu fel rhan o fenter Kids in Museums ar draws y DU sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc gysgodi gweithwyr, cyfrannu at benderfyniadau a lleisio’u barn ar faterion allweddol.
Bydd dros 20 o fyfyrwyr Astudiaethau Twristiaeth a Hamdden yn treulio’r diwrnod gyda’r tîm gwasanaethau ymwelwyr, y curaduron a’r awduron oriel gyda rhai hefyd yn gweithio yn y siop ac yn cynorthwyo i baratoi at ddigwyddiadau sydd i ddod.
Bydd Matthew Tsui yn cymryd rhan yn y digwyddiad. Dywedodd yntau: “Mae’r cyfle hwn i gyfrannu at waith yr Amgueddfa yn unigryw, a bydd yn rhoi gwybodaeth werthfawr i mi fydd yn gefn i’r hyn yr ydw i wedi’i ddysgu yn yr ystafell ddosbarth. Alla i ddim aros i weld sut mae’r Amgueddfa yn gweithio a dysgu am wahanol swyddi a chyfrifoldebau staff yr Amgueddfa. Gobeithio y bydd y profiad hwn yn help i mi ddewis fy llwybr yn y diwydiant wedi i mi orffen astudio.”
Dywedodd Carol Jarvis, darlithydd Astudiaethau Teithio, Twristiaeth a Hamdden yn y Coleg: “Mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael profiad o’r hyn sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni yn yr Amgueddfa ac sy’n berthnasol i’w hastudiaethau ar hyn o bryd. Bydd rhai o’n myfyrwyr yn ceisio am swyddi neu le mewn prifysgol y flwyddyn nesaf a gallai’r profiad hwn fod o fantais wrth wneud cais. Efallai y bydd un o’n myfyrwyr yn gwneud cais am swydd yn yr Amgueddfa yn y dyfodol!”
“Byddan nhw yn ein helpu ni i wneud ein swyddi arferol, ateb y ffôn a helpu gydag ymweliadau ysgol, gwerthu nwyddau yn y siop, trefnu arddangosfeydd a chynnal teithiau tywys – tasgau bob dydd,” meddai Swyddog Addysg yr Amgueddfa, Mandy Westcott.
Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd Pennaeth yr Amgueddfa Steph Mastoris: “Rydyn ni wrth ein bodd o fedru rhoi cyfle i fyfyrwyr ddod i’r Amgueddfa a gweld beth yn union y bydd y staff yn ei wneud yma. Rwy’n si?r y byddwn ni yn dysgu o’r profiad hefyd drwy syniadau ac arsylwadau y myfyrwyr eu hunain. Mae’r fenter hon yn gyfle gwych iddynt ennill peth profiad o fyd gwaith ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan.”
Nodiadau i olygyddion
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Marie Szymonskiar 01792 638950.
I ddysgu mwy am ddigwyddiadau Takeover Day a Kids in Museums, ewch i www.kidsinmuseums.org.uk/takeoverday
Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe