Datganiadau i'r Wasg

Edrych ymlaen at Nadolig Gwyrdd ar y Glannau

Mae tymor y Nadolig yn agosáu a bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn troi’n wyrdd dros yr ?yl.

Y penwythnos hwn (dydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Tachwedd o 10am), bydd Ffair Werdd yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd yr Amgueddfa lle gall ymwelwyr archwilio dros 50 o stondinau yn cynnig nwyddau ac anrhegion gwyrdd fel gemwaith wedi’u hailgylchu, dillad a chardiau Nadolig, siocled a byrbrydau masnach deg a nwyddau cartref moesegol.

Gall teuluoedd hefyd fwynhau byd natur drwy drawsnewid moch coed a ffrwythau sych yn addurniadau Nadoligaidd creadigol. Bydd y gweithdy galw draw ymarferol hwn yn cael ei gynnal o 12pm-3pm a does dim angen archebu lle.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu Marchnata, ar 01792 638970.

Diolch i Lywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i safleoedd Amgueddfa Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon

Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach

Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe