Datganiadau i'r Wasg

Cymru yn arwain llwyddiant mynediad am ddim i amgueddfeydd

Mae nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd cenedlaethol Cymru’n dal i dyfu

Yr wythnos hon, bydd amgueddfeydd cenedlaethol y DU yn dathlu 10 mlynedd ers cyflwyno mynediad am ddim ar 1 Rhagfyr 2001. Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, cyflwynwyd y polisi yn Amgueddfa Cymru wyth mis cyn hynny – penderfyniad blaengar fu bron â dyblu nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd cenedlaethol Cymru.

Yn 2001-02, llwyddodd ymgyrch farchnata a’r wasg arbennig ‘am ddim i bawb’ i gynyddu’r ffigyrau 88% – o 764,599 i 1,430,428 – o fewn 12 mis.

Mae’r cynnydd wedi parhau, ac mewn gwirionedd, mae wedi cyflymu. Cafwyd 1,656,340 o ymweliadau â saith amgueddfa genedlaethol Cymru yn 2010-11. Erbyn 1 Ebrill 2011, bu bron i 15 miliwn ymweliad dros y ddegawd o fynediad am ddim.

Meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth:
 
"Dyma lwyddiant cwbl Gymreig i Ddatganoli, Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru. Mae’r polisi mynediad am ddim yn taro’r cydbwysedd cywir rhwng diwallu anghenion ymwelwyr selog a denu cynulleidfaoedd newydd, anodd eu cyrraedd; yn ogystal â mynd i’r afael â rhwystrau mynediad megis tlodi a chynhwysiant cymdeithasol.

“Mae wedi bod yn rhan allweddol o gynyddu’r niferoedd ac apelio at ystod eang o bobl o’n cymunedau. Cyn mynediad am ddim, roedd llai na 250,000 o’r ymwelwyr yn dod o grwpiau llai cefnog, ond yn ystod deng mlynedd gyntaf y polisi, mae’r ffigwr wedi dyblu.”

Ychwanegodd agoriad yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ym mis Gorffennaf 2011 at y llwyddiant drwy ddenu cynulleidfaoedd newydd. Dros yr haf (Ebrill - Medi 2011), cyrhaeddodd nifer yr ymwelwyr â’r Amgueddfa uchafbwynt o 213,077 o gymharu â 188,456 y flwyddyn flaenorol, a hynny diolch i’r datblygiad newydd ac ail-agor yr orielau Hanes Natur.

Hefyd yn 2011, cafodd dwy o amgueddfeydd eraill Amgueddfa Cymru eu hafau mwyaf llwyddiannus erioed. Croesawyd 111,891 o bobl i Amgueddfa Lechi Cymru dros y chwe mis (cynnydd o 9.7% o gymharu â’r un adeg llynedd) a 19,383 i Amgueddfa Wlân Cymru (16.8% yn fwy).

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Diolch i weledigaeth a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru, rwy’n falch iawn taw Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gael gwared ar rwystr mawr a galluogi i bobl fwynhau eu treftadaeth a’u diwylliant. Dim ond un o gyfraniadau Amgueddfa Cymru at fywyd cymdeithasol ac economaidd Cymru yw mynediad am ddim. Rydym ni hefyd yn chwarae rhan flaenllaw mewn darpariaeth ddiwylliant a threftadaeth, addysg, sgiliau a thwristiaeth.

"Amgueddfa Cymru yw darparwr addysg tu allan i’r ystafell ddosbarth mwyaf Cymru, gan ddod â dysgu’n fyw i dros 230,000 o ddisgyblion bob blwyddyn. Drwy ein casgliadau a’n hamrywiaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau, rydym ni’n ysbrydoli pobl o bob oed a chymuned waeth beth fo’u cefndir. Mae ein gwaith yn ymestyn tu hwnt i furiau’r amgueddfeydd hefyd trwy ein gwaith partneriaeth ar ystod o brojectau cymunedol ym mhob cwr o Gymru a thramor."

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa. 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Catrin Mears, Swyddog Cyfathrebu Corfforaethol, ar (029) 2057 3185 neu e-bostiwch catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk <mailto:catrin.mears@amgueddfacymru.ac.uk>.
Nodiadau i olygyddion:
2000-01 2001-02 2002-03 2003-04 2004-05 2005-06 2006-07 2007-08 2008-09 2009-10 2010-11
764,599 1,430,428 1,278,449 1,222,206 1,318,486 1,343,685 1,533,257* 1,672,677** 1,524,806 1,639,827 1,656,340
• Effaith Mynediad am Ddim ar niferoedd ymwelwyr. Mae’r ystadegau canlynol yn cynrychioli cyfanswm y bobl fu’n ymweld â saith amgueddfa genedlaethol Cymru bob blwyddyn:

*Mae’r naid yn 2006-07 yn adlewyrchu effaith agor Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ym mis Hydref 2005.

**Mae’r ffigwr uchaf yn 2007-08 yn adlewyrchu dathliadau ein Canmlwyddiant yn 2007 a buddsoddiad cysylltiol yn ein rhaglen gyhoeddus y flwyddyn honno.

• Cynhaliwyd arolwg annibynnol gan Strategic Marketing yn seiliedig ar 421 cyfweliad wyneb yn wyneb gyda sampl ar hap o ymwelwyr â’r Amgueddfa Gelf Genedlaethol rhwng canol Gorffennaf a Hydref 2011. Cafwyd:
- Fod dau o bob tri ymwelydd (67%) yn ystyried orielau celf yr Amgueddfa’n ‘wych’
- Y dywedodd y rhan helaeth o ymwelwyr (85%) y byddent yn ‘bendant’ yn argymell i’w ffrindiau a’u teulu ymweld â’r orielau