Datganiadau i'r Wasg

Nadolig Rhufeinig Traddodiadol

Wnaethoch chi erioed feddwl pa draddodiadau fyddai’n cael eu harddel yng ngwyliau heuldro gaeaf y gorffennol? Bydd cyfle i fwynhau Nadoligau’r gorffennol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion ar ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr, o 11am i 4pm.

 

Wnaethoch chi erioed feddwl pa draddodiadau fyddai’n cael eu harddel yng ngwyliau heuldro gaeaf y gorffennol? Bydd cyfle i fwynhau Nadoligau’r gorffennol yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion ar ddydd Sadwrn 10 Rhagfyr, o 11am i 4pm.
Byddai’r Rhufeiniaid yn dathlu g?yl Saturnalia – roedd yn gyfnod o wledda, rhoi anrhegion, chwarae gemau a hwyl – byddai brwydrau gladiator yn cael eu cynnal hefyd! Beth am ddymuno ‘Nadolig Llawen’ i’r band o Lychlynwyr (gwyliwch na fyddan nhw’n dechrau anrheithio’r wlad!) neu ddawnsio’r ‘Grizzly Bear’ mewn parti o’r 1920au. Bydd digon o weithgareddau i ddiddanu pawb, yn ogystal â mins pei traddodiadol a gwydryn o win y gaeaf!
Gallwch brynu amrywiaeth o roddion Nadoligaidd yn y stondinau crefft, neu os ydych chi’n chwilio am rywbeth unigryw, beth am wneud eich anrheg eich hun – bydd cyfle i greu canhwyllau, pomander a marblo papur (codir tâl bychan). Bydd dawnswyr Morris ‘The Widders’ hefyd yn perfformio yn ystod y prynhawn.
Wedi mwynhau’r dathliadau dan do, gallwch gamu allan i fwynhau’r ardd Rufeinig yn ei gogoniant yn yr eira, cyn dychwelyd mewn pryd ar gyfer Saturnalia. Efallai y bydd ymwelwyr yn synnu o glywed faint o draddodiadau Saturnalia sy’n dal yn fyw yn rhai o’n dathliadau Nadoligaidd ni yn y 21ain Ganrif!
Dywedodd Victoria Le Poidevin, Swyddog Digwyddiadau Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru, “Amser i roi rhoddion i ffrindiau a theulu oedd Saturnalia, fel y Nadolig heddiw, a bydd yr Amgueddfa yn llawn hwyl yr ?yl, o stondinau crefft i annibendod creadigol!”
“Byddai gwylio gladiatoriaid yn ymladd yn adloniant poblogaidd, ac rydyn ni’n parhau â’r traddodiad hwnnw drwy adael i blant ac oedolion roi cynnig ar ymladd yn erbyn ein pencampwyr!”
 “Bydd cyfle hefyd i chi brofi awyrgylch parti Nadolig o’r 1920au a mwynhau teganau, bwyd a dawnsfeydd y cyfnod – pwy sydd am ddawnsio’r ‘Grizzly Bear’?! Neu beth am ymuno â’r Llychlynwyr o amgylch eu tanllwyth tân a rhannu eu dathliadau gaeafol; cofiwch gadw llygad arnyn nhw, maen nhw’n hoff o fynd i anrheithio!”

“Mwynhewch Nadolig modern ymysg ein stondinau crefft a siopa am roddion sydd ddim i’w gweld ar y stryd fawr, creu torch Nadolig neu blasu bwyd a diod yr ?yl.”

“Mae digon yma i ddiddanu’r teulu cyfan, felly beth am alw draw i fwynhau gaeaf fel y Rhufeiniaid. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda, neu fel y byddai’r Rhufeiniad yn dweud: ‘Io bona Saturnalia!’”