Datganiadau i'r Wasg
Cystadleuaeth Cardiau Mencap Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Dyddiad:
2011-12-19Cynhaliodd Mencap Cymru dair cystadleuaeth cerdyn Nadolig lwyddiannus iawn ledled Cymru, ble gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd bleidleisio am un allan o ugain cerdyn Nadolig a gafodd eu dylunio gan bobl ifainc ag anabledd dysgu. Ym mhob ardal, cyflwynwyd gwerth £100 o offer celfyddyd i’r buddugwyr a £100 ychwanegol i’r ysgol i brynu defnyddiau.
Yng Ngogledd Cymru, arddangoswyd y cardiau yng nghanolfan siopau ‘Bay View’ ym Mae Colwyn. Yr enillydd oedd Terry Tuffrey, 11 oed, o Ysgol Hafod Lon, Gwynedd, a chyflwynwyd ei wobr iddo gan Ann Jones, Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd, sy wedi cefnogi Mencap Cymru am beth amser. Cyflwynodd ei Chydweithiwr o’r Cynulliad, Jane Hutt, AC, wobr i Jac Hughes, 4 oed, o Ysgol T? Coch, Rhondda Cynon Taf, mewn digwyddiad yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ble bu arddangosfa o’r cardiau drwy gydol yr wythnos.
“Rydw i’n hynod o falch bod pobl sy’n ymweld â’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn dod i weld a gwerthfawrogi medrau a doniau ein pobl ifainc heddiw trwy arddangosfa Mencap Cymru.” - David Anderson, Prif Gyfarwyddwr, Amgueddfa Cymru
Yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru rhoddwyd gwobr i Christopher Howells yng nghyngerdd Carolau yng Ngolau Cannwyll yn Eglwys y Santes Fair, Y Tywyn Bach, gan y Tywysog Seesio, Uchel Gomisiynydd Lesotho yn y DU. Mynychodd y Tywysog y digwyddiad fel rhan o’i gefnogaeth i Mencap Cymru a chyswllt yr elusen a’i wlad enedigol.
“Hwn yw un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd Mencap Cymru. Mae’n ffordd arbennig o dda i bobl ifainc ag anabledd dysgu, eu hathrawon a’u rhieni ar draws Cymru gael cychwyn ar hwyl y Nadolig ac mae’n ein helpu i ryngweithio â’r cyhoedd. Mae llawer o bobl ag anabledd dysgu yn mwynhau celfyddyd fel difyrrwch ac mae pobl sy’n pleidleisio yn y gystadleuaeth yn dotio at safon uchel y celfyddydwaith. Mae’n dangos beth mae pobl ifainc ag anabledd dysgu yn gallu ei wneud ond iddyn nhw gael y cyfle.” – Cydgadeirydd Mencap Cymru, Mary Oliver
Cliciwch ar y linc isod i weld lluniau o'r cardiau Nadolig
http://www.flickr.com/photos/mencap_photos/sets/72157628245020505/