Datganiadau i'r Wasg

Taith Uchafbwyntiau Sain

Mae rhai o leisiau mwyaf peraidd Cymru yn cael eu defnyddio i sicrhau bod ymweliad â'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yng Nghaerdydd yn fwy arbennig nag erioed, gan ddangos bod modd gwneud dysgu am rywbeth newydd yn beth wmbreth o hwyl.

Mae AOG wedi lawnsio'i Taith Uchafbwyntiau Sain dwyieithog ei hun, i wneud yn siwr bod ymwelwyr yn gallu gwneud y gorau o'u hamser yn yr orielau a'r galerïau. Gan ddefnyddio rhai o leisiau mwyaf adnabyddus Cymru. Mae'r taith AOG yn ychwanegu at brofiad ymwelwyr, gan gynnig gwybodaeth gefndirol ac ychwanegol am ran helaeth o'r casgliadau.

Gall ymwelwyr dreulio orig yn ein orielau archaeoleg yn gwrando ar lais melfedaidd Phillip Madoc, yn disgrifio Tlws Oxwich a'r Brigwrn Haearn Capel Garmon. Neu beth am grwydro'r galerïau celf yng nghwmni un o sêr ifanc Cymru, Matthew Rhys? Pa well ffordd i ddysgu am rai o luniau mwyaf rhamantus y byd na chyda seren ddiweddar Romeo & Juliet yn sibrwd yn eich clust?

A dyw'r amgueddfa heb anghofio am y dynion chwaith, gyda llais deniadol Siân Phillips yn eich arwain drwy gasgliadau celf yr amgueddfa.

Mae'r Taith Uchafbwyntiau Sain dwyieithog ar gael o'r ddesg wybodaeth ym mhrif neuadd yr amgueddfa. Maen nhw'n cynnwys gwybodaeth am y casgliadau celf a archaeoleg. Bydd angen blaen-dâl bach.

Mae mynediad i'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.