Datganiadau i'r Wasg

Big Pit yn Dathlu Ennill Gwobr Safon

Yr wythnos hon, mae Big Pit yn dathlu i wefan Trip Advisor ddyfarnu’r wobr safon uchaf posibl i’r safle.

 

Mae’r wefan yn annog ymwelwyr i bostio adolygiadau ar ôl ymweld â llefydd arbennig, ac mae Big Pit wedi cael gradd ‘pum seren’ gan ymwelwyr.

Dywedodd Peter Walker, Ceidwad a Rheolwr y Lofa: “Rydyn ni’n ymdrechu i roi’r profiad gorau posibl i bob ymwelydd, ac mae’r adolygiadau ar Trip Advisor yn brawf ein bod yn llwyddo. Mae gan Big Pit 93 adolygiad gyda pob un yn rhoi gradd ‘Da Iawn’ neu ‘Rhagorol’ i ni, a chanlyniad hynny yw’r wobr hon.”

Mae rhai o’r sylwadau am ymweld â Big Pit yn cynnwys:

“Cipolwg diddorol ar hanes mwyngloddio!” Cherryann, de Cymru

“Mae’n rhaid taw dyma un o’r llefydd gorau yn Nghymru am wibdaith, os nad Y gorau, ac mae AM DDIM. Mae’r staff, sy’n gyn lowyr, yn dod â’r lle yn fyw ac mae’r lifft wir yn mynd â chi i lawr at y ffas lo.(Dim Disneyland yw hwn).” Tafftraveller, Caerdydd

“Y peth gorau am Big Pit yn bendant yw’r glowyr eu hunain. Mae nhw’n dod â’r daith a’r pwll yn fyw drwy eu storïau. Rwy’n ei argymell yn fawr!” HKDave, Hong Kong

“Doeddwn i ddim yn disgwyl llawer o’r daith hon gan fy mod i wedi bod ar sawl un tebyg, ond ces i fy rhyfeddu gan y lle.” Fozzy279, gogledd Cymru