Datganiadau i'r Wasg

Casgliad celf Prydeinig y Cymro Derek Williams i ymweld â'r Alban

Y Cymro Derek Williams yw cymwynaswr mwyaf Amgueddfa Cymru ers Gwendoline a Margaret Davies. Eleni, bydd gweithiau o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams yn teithio i’r Alban i gael eu dangos mewn arddangosfa newydd yn Pier Arts Centre, Stromness, Orkney o ddydd Sadwrn 1 Medi – 17 Tachwedd ac yn City Art Centre yng Nghaeredin o 1af o Ragfyr i 24ain o Chwefror 2013.

 

Bydd arddangosfa o ddeugain a mwy o weithiau gan artistiaid Prydeinig mwyaf yr 20fed ganrif yn cael ei chynnal yn Pier Arts Centre. Mae gweithiau gan L.S. Lowry, Henry Moore, John Piper, Ceri Richards, Ivon Hitchens a llawer mwy yn rhan o Gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams, ac mae ar hyn o bryd ar daith gyfyngedig o amgylch y DU.

Noddir yr arddangosfa yn Pier Arts Centre gan Allianz a Clark Thomson Insurance Brokers, a noddir y daith genedlaethol gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ac Amgueddfa Cymru.

Tirfesurydd siartredig oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd oedd Derek Williams (1929-1984), a dechreuodd gasglu gweithiau celf yn y 1950au. Roedd yn frwd dros gelf Brydeinig fodern, a cafodd ei ddenu drwy hyn at waith John Piper a Ceri Richards – eu gweithiau hwy yw asgwrn cefn y casgliad. Ategir y rhain gan weithiau artistiaid blaenllaw eraill o ganol yr 20fed ganrif, fel Stanley Spencer, Victor Pasmore a Lucian Freud. Mae’r casgliad yn ei gyfanrwydd ar fenthyciad tymor hir i Amgueddfa Cymru.

Meddai Melissa Munro, Curadur Casgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams, “Adeiladodd Derek Williams gasgliad anhygoel o gelf Brydeinig fodern yn ystod ei fywyd, ac mae Ymddiriedolaeth Derek Williams yn parhau i’w ddatblygu heddiw. Mae Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams yn hynod falch o gael dod â’r casgliad unigryw hwn i’r Alban, gyda’r gobaith o godi ymwybyddiaeth o’r casgliad y tu hwnt i Gymru.”

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth wedi marw’r casglwr ac mae wedi ymrwymo i ofalu am, datblygu ac arddangos casgliad Derek Williams. Mae’r Ymddiriedolaeth hefyd yn hael ei chefnogaeth i’r gwaith o brynu gweithiau celf wedi 1900 yn Amgueddfa Cymru.

Meddai Andrew Parkinson, Curadur Pier Arts Centre, “Rydyn ni’n falch iawn o ddod a chasgliad mor gyfoethog o gelf Prydeinig i Orkney. Tra bod gweithiau Casgliad Derek Williams yn dod o’r un cyfnod yn fras â gweithiau casgliad Pier Arts Centre, mae’n olwg hollol wahanol ar gelf tirlun a haniaethol Prydeinig. Mae elfen tipyn yn fwy rhamantaidd a bugeiliol i waith artistiaid fel Ivon Hitchens, John Piper a David Jones a bydd yn ddiddorol gweld eu gwaith hwy ac artistiaid eraill o Gasgliad Derek Williams ochr yn ochr â Moderniaeth greiddiol casgliad Pier Arts Centre.”

Bydd Melissa Munro, Curadur Casgliad Derek Williams yn tywys taith drwy’r arddangosfa ar ddydd Sadwrn 1 Medi am 2pm. Mae mynediad am ddim a chroeso i bawb.

Diwedd