Datganiadau i'r Wasg

Dechrau dathlu Mis Hanes Pobl Dduon

Rydyn ni wrthi’n gorffen paratoi dathliadau Mis Hanes Pobl Dduon yma yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Ar ddydd Sadwrn 20 Hydref (11am-4pm), bydd yr Amgueddfa’n fwrlwm o weithfeydd ymarferol, perfformiadau cerddorol, sgyrsiau hanesyddol ac arddangosfeydd cymunedol.

Nod y digwyddiad, sydd wedi’i drefnu gyda chymorth y Gr?p Partneriaeth Affricanaidd, yw cydnabod cyfraniad pobl dduon i hanes a diwylliant lleol, cenedlaethol a bydol.

Cynigir gweithdai ymarferol ar gelf Jamaicaidd yn ogystal â sesiynau graffiti wedi’u hysbrydoli gan arwyr chwaraeon croenddu. Ymhlith y sgyrsiau hanesyddol mae Adeiladu’r Drydedd Groesgad gyda’r Athro Edbury (11am), Llythrennedd a Chydweithredu yn Haiti gyda Jean-Robert Cadet (12pm a 2.30pm) a Un Dynolryw gan Nicky Delago (12pm, 1pm, 2pm a 3pm).

Llwyfannir perfformiadau gan Theatr Ieuenctid Gorllewin Morgannwg a’r Ganolfan Gymunedol Affricanaidd i Bobl Ifanc yn ogystal ag arddangosiad o ddawnsio Nigeraidd gan Place of Victory a pherfformiad corawl o gân Anti Restevek – Lambi Konen Pou Tout Timoun – gan Ysgol Bryntawe.

Wrth siarad am y digwyddiad, meddai Sue James, Swyddog Addysg yr Amgueddfa: “Rydym yn falch iawn o gael cynnig cymysgedd mor gyfoethog ac amrywiol o weithgareddau er mwyn ceisio dangos cyfraniad pobl Affrica i ddiwylliant a threftadaeth Cymru. Mae gennym sgyrsiau hanesyddol, cerddoriaeth, arddangosfeydd ysgolion a pherfformiadau gan bobl ifanc, ac mae’r digwyddiad yn tyfu bob blwyddyn. Mae cymaint i’w weld, gobeithio y bydd pobl yn galw draw i ymuno yn yr hwyl ac i ddysgu mwy am y dreftadaeth yr ydym yn ei rhannu.”

DIWEDD

Ffotograffau: mae croeso i aelodau’r wasg fynychu, cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.