Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Prehistoric Autopsy y BBC ar daith yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Yn dilyn y gyfres boblogaidd a gyflwynwyd gan yr Athro Alice Roberts a Dr George McGavin ar y BBC, Prehistoric Autopsy, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn llwyfannu arddangosfa ryngweithiol addysgol y BBC. Cynhelir yr arddangosfa, sy’n ategu’r gyfres, ar 8-11 Tachwedd ym Mhrif Neuadd yr Amgueddfa.

Anelir yr arddangosfa newydd at deuluoedd â phlant 7-12 oed, gan roi cyfle i ymwelwyr ddod wyneb yn wyneb â thri o’n cyndeidiau cynharaf: tri model maint llawn yn y cnawd o Neanderthal, Homo Erectus ac Australopithecus Afarensis ynghyd â’u sgerbydau symudol. Uchafbwynt yr arddangosfa fydd yr union fodelau a ddefnyddiwyd yn y gyfres deledu ac sydd wedi cael eu hailadeiladu mewn manylder ar sail gweddillion darniog esgyrn hynafol a’r ymchwil wyddonol ddiweddaraf.

 

Bydd yma hefyd weithgareddau rhyngweithiol a gemau a chyfle i ail-greu rhai o’r addurniadau cregyn y byddai ein cyndeidiau o bosibl yn eu gwisgo.

 

Bydd Curadur Archaeoleg Balaeolithig a Mesolithig Amgueddfa Cymru, Elizabeth Walker yn rhoi sgwrs am Neanderthaliaid yng Nghymru am 1pm ar ddydd Iau 8, dydd Gwener 9, dydd Sadwrn 10 a dydd Sul 11 Tachwedd. Yn ogystal ag arddangos y casgliad trafod, bydd yn siarad am y gwaith cloddio archaeolegol yn Ogof Pontnewydd, Sir Ddinbych lle mae gweddillion o leiaf pum Neanderthal wedi cael eu canfod ynghyd ag offer cerrig ac esgyrn rhai o’r anifeiliaid y byddent yn eu hela. Bydd y sgwrs hon yn adrodd hanes y darganfyddiadau yn yr ogof – y dystiolaeth sy’n gwella ein dealltwriaeth o fywydau’r Neanderthaliaid a’r wlad yr oeddent yn byw ynddi.

 

Meddai Curadur Archaeoleg Balaeolithig a Mesolithig Amgueddfa Cymru, Elizabeth Walker; “Mae’r gyfres ar y BBC wedi bod yn un hynod ddiddorol ac rydym wrth ein boddau fod yr arddangosfa yn dod i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n gyfle gwych i ymwelwyr gael golwg fanwl ar y modelau maint llawn a dysgu mwy am hanes esgyrn a’r hyn y gallwn ei ddysgu ohonynt am hanes unigolyn, rhywogaeth a beth yw bod yn ddynol.”