Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymhlith 5 hoff amgueddfa'r Deyrnas Unedig.

Mae dwy o amgueddfeydd cenedlaethol y brifddinas – Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – wedi derbyn y statws ‘Recommended Provider’ yn rhifyn Tachwedd o’r cylchgrawn defnyddwyr Which?.

Ym mis Chwefror a Mawrth 2012, gofynnodd cylchgrawn Which? i 4,239 o’u haelodau am eu barn ar atyniadau ymwelwyr roeddent wedi ymweld â nhw yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Am yr ail flynedd o’r bron, daeth Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i frig y categori ar gyfer Orielau ac Amgueddfeydd gyda sgôr o 93% o ran boddhad cyffredinol a pha mor debygol oedd yr adolygwyr i argymell ymweliad. Daeth Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn bedwerydd gyda sgôr o 89%. Sgoriodd y ddwy Amgueddfa’n uchel am ba mor barod eu cymorth oedd staff a safon yr wybodaeth. Mae’r ddwy Amgueddfa’n rhan o deulu Amgueddfa Cymru ac yn denu dros 1,000,000 o ymwelwyr pob blwyddyn. Amgueddfa Kelvingrove yn Glasgow ac Amgueddfa Genedlaethol yr Alban, Caeredin ddaeth yn ail a thrydydd ar y rhestr gyda’r Amgueddfa Brydeinig yn bumed.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae’n golygu llawer i’n gweithwyr ni i gael eu gwaith caled wedi’i gydnabod drwy dderbyn gwobrwyon o’r fath. Mae cael dwy Amgueddfa o safon byd-eang yng Nghaerdydd yn golygu ein bod ni’n ganolog i’r cynnig ymwelwyr yng Nghymru ac yn rhannu lle amlwg ar lwyfan y celfyddydau yn rhyngwladol.”

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn gartref i’r casgliadau archaeolegol, daeareg a hanes natur cenedlaethol. Yn 2011, crëwyd Amgueddfa Gelf Genedlaethol yno drwy agor chwe oriel celf gyfoes a modern newydd sbon i ategu’r casgliad o baentiadau’r Hen Feistri Ewropeaidd, yr argraffiadwyr Ffrengig a gwaith ôl-argraffiadol.

Ym mis Gorffennaf 2012, derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i’w dyfarnu yng Nghymru gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn gweddnewid profiad yr ymwelwyd. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd mynedfa groeso ac orielau newydd yn cael eu hagor yn ogystal ag adeiladau newydd sy’n cynnwys ail-gread o Lys Rhosyr, un o lysoedd tywysogion Gwynedd.

Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o wobrau i’r Amgueddfeydd eu hennill. Yn 2012, dyfarnwyd tystysgrif ragoriaeth i Sain Ffagan ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan wefan adolygiadau TripAdvisor.

Am fwy o wybodaeth a lluniau, cysylltwch ag Iwan Llwyd, Swyddog Marchnata a Chyfathrebu ar (029) 2057 3486 / 07920 027054 neu iwan.llwyd@amgueddfacymru.ac.uk; neu Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu ar (029) 20573175 neu Lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.