Datganiadau i'r Wasg

Mathew Prichard yn derbyn Medal Tywysog Cymru am Deyrngarwch

Teyrnged gan Amgueddfa Cymru:

“Mae Mathew Prichard wedi bod yn frwd ei gefnogaeth i Amgueddfa Cymru fel Ymddiriedolwr a thrwy ei nawdd sylweddol. Ymunodd â Chyngor yr Amgueddfa ym 1977 gan barhau yn aelod tan iddo gael ei ethol yn Is-lywydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ym 1992. Bu’n Llywydd y Bwrdd yn ddiweddarach rhwng 1997 a 2002.

“Mae cefnogaeth barhaus Mathew wedi ein galluogi ni i lunio cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer ein harddangosfeydd a’n horielau ac wrth geisio ennyn cefnogaeth o ffynonellau eraill. Mae’n eithriadol cymaint o amser ac ymdrech a roddwyd i’r sefydliad gan un unigolyn, a hynny’n barhaus dros 35 mlynedd, a bod ganddo hefyd weledigaeth a chred yn ein gwaith i’n cynorthwyo i sicrhau dyfodol llewyrchus.

“Brwdfrydedd Mathew tuag at gelfyddyd a thuag at Gymru yw sail ei gefnogaeth. Mae ei lwyddiannau a’i ddylanwad mawr dros ddiwylliant Cymru am flynyddoedd lawer yn deilwng o gydnabyddiaeth o’r radd flaenaf.”