Datganiadau i'r Wasg

Rhodd dyngarol o weithiau celf gyfoes i Amgueddfa Cymru

Mae deuddeg o weithiau celf modern gan artistiaid rhyngwladol eu bri wedi cael ei rhoi i Amgueddfa Cymru. Ymhlith y gweithiau, a roddwyd gan y casglwyr celf adnabyddus Eric a Jean Cass drwy’r Gymdeithas Gelf Gyfoes, mae dau lithograff gan yr artist Swrreal enwog Joan Miró a gwaith pwysig gan yr artist o’r Iseldiroedd Karel Appel. Byddant yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 4 Mai tan 21 Gorffennaf 2013.

 

Dros 35 mlynedd mae Eric a Jean Cass, sy’n byw yn Surrey, wedi adeiladu casgliad gwych a phersonol iawn o 300 a mwy o gerfluniau, cerameg, darluniau, printiau a phaentiadau – gweithiau sydd wedi’u rhoi i’r Gymdeithas Gelf Gyfoes i’w rhannu ymhlith sefydliadau cyhoeddus ac i gefnogi celf gyfoes yn y DU. Daw cyfanswm gwerth y casgliad i fwy na £4 miliwn.

 

Ymhlith rhoddion Eric a Jean Cass i Amgueddfa Cymru mae pedwar lithograff gan yr artist o Gatalwnia Joan Miró. Poster yw’r gwaith yn dwyn y teitl Miró a gynhyrchwyd yn y 1970au i hysbysebu bod printiau gwreiddiol yr artist ar gael i’w prynu yn Vision Nouvelle, Paris. Mae’r dyluniad lliwgar a’r ffurfiau haniaethol yn nodweddiadol o waith Miró, ddaeth i enwogrwydd fel un aelodau’r grŵp Swrrealwyr ym Mharis yn ystod y 1920au a’r 1930au. 

 

Ymhlith y gweithiau eraill mae Y Ddinas, 1982, gwaith olew ar gynfas gan Karel Appel yn dangos menyw noeth a chi yn crwydro drwy dirwedd anial o nendyrau. Mae’n ymdrin â dirywiad a thlodi dinas a daw’r ysbrydoliaeth o brofiad Appel o strydoedd Efrog Newydd ym 1981. Rhodd arall yw, Private Waltz,1989, gwaith haniaethol mawr yn y dull ystumiol mewn acrylig ar liain cotwm gan yr artist o Brydain John Hoyland. (Rhestr isod)

 

Ym 1969, cydweithiodd Eric Cass yn agos â’r pensaer Brian Sapseid er mwyn dylunio tŷ o’r enw Bleep. Daw enw chwareus y tŷ o sain uchel y pagers electronig a werthwyd gan gwmni Eric, Cass Electronics. Bu cynllun agored a phensaernïaeth fodern y tŷ yn sbardun i Eric ddechrau prynu gweithiau celf modern a chyfoes i ddodrefnu eu cartref.

 

Dyma nhw’n penderfynu’n gynnar y byddent yn rhoi’r casgliad i amgueddfeydd ac orielau yn y DU fel y gallai cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r wlad eu mwynhau. Penodwyd y Gymdeithas Gelf Gyfoes i reoli’r gwaith o ddosbarthu Casgliad Cass, a phenodwyd saith sefydliad o blith y 65 aelod o bob cwr o’r DU i dderbyn gweithiau. Gwahoddwyd y saith a ddewiswyd i gyflwyno ceisiadau am weithiau fyddai’n ategu neu’n bywiocau eu casgliadau presennol. Dewiswyd Amgueddfa Cymru yn un o’r derbynwyr ynghyd â’r Oriel Celf Fodern (Glasgow), Hepworth Wakefield, Oriel Gelf Leeds, Oriel Celf Fodern Genedlaethol yr Alban (Caeredin), Y Pafiliwn ac Amgueddfeydd Brenhinol (Brighton) ac Oriel Gelf Wolverhampton.

 

Meddai Melissa Munro, Curadur Derek Williams:

           

“Rydyn ni’n hynod ddiolchgar i Eric a Jean Cass a’r Gymdeithas Gelf Gyfoes am eu rhodd hael – rhan o’u casgliad personol fydd bellach yn cyfoethogi casgliadau Amgueddfa Cymru. Mae’r ffaith i ni gael ein dewis yn brawf o’r parch a ddangosir at gasgliadau Amgueddfa Cymru ac rwy’n gobeithio bydd ein hymwelwyr yn mwynhau gweld y gweithiau yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 4 Mai.”

 

Meddai Paul Hobson, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Gelf Gyfoes:

 

“Mae gwerth diwylliannol ac ariannol y rhodd hynod hael hwn gan Eric a Jean Cass i sefydliadau a’u cynulleidfaoedd ym mhob cwr o’r DU yn amhrisiadwy ac yn esiampl o ddyngarwch anhunanol. Aeth Eric a Jean ati i adeiladu eu casgliad gyda brwdfrydedd, gofal a doethineb, gan sylweddoli o’r dechrau y byddai’r gweithiau yn dod i law casgliadau cyhoeddus yn y pen draw pan y gallai’r pleser a roddodd iddynt hwy gael ei rannu â chynulleidfa genedlaethol eang, heddiw ac yn y dyfodol. Mae’n nodweddiadol taw nod y cwpl goleuedig yma yw bod o fudd i gynulleidfaoedd ble bynnag y bont, gan sylweddoli taw drwy gyfrwng y casgliadau lleol pwysig yma y bydd artistiaid a chynulleidfaoedd yn porthi’u dychymyg. Edrychwn ymlaen at agoriad yr arddangosfa yng Nghaerdydd.”

Elusen genedlaethol yw’r Gymdeithas Gelf Gyfoes sy’n hybu gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o gelf fodern yn y DU. Gyda chymorth ein haelodau a’n cefnogwyr rydym yn codi arian i brynu gweithiau gan artistiaid newydd cyn eu rhoi i amgueddfeydd ac orielau cyhoeddus lle gall cynulleidfa genedlaethol eu mwynhau. Rydym yn broceru gweithiau celf pwysig a phrin gan artistiaid mawr yr ugeinfed ganrif ar gyfer casgliadau cyhoeddus trwy ein rhwydwaith o noddwyr a chasglwyr preifat. Rydym yn meithrin cysylltiadau er mwyn comisiynu gweithiau celf a hyrwyddo celf gyfoes mewn lleoliadau cyhoeddus. Rydym hefyd yn trefnu rhaglen o arddangosiadau, sgyrsiau gan artistiaid a digwyddiadau addysgiadol. Er 1910 rydym wedi rhoi dros 8,000 o weithiau i amgueddfeydd ac orielau cyhoeddus – o Bacon, Freud, Hepworth a Moore dros y blynyddoedd, i artistiaid dylanwadol heddiw – gan hyrwyddo talent newydd, cefnogi curaduron a chymell dyngarwch a chasglu yn y DU.

 

Am ragor o wybodaeth am rodd Eric a Jean Cass ewch i: http://www.contemporaryartsociety.org/our-work-with-public-collections/the-eric-jean-cass-gift

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

 

- Diwedd -

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar (029) 2057 3175 neu drwy e-bostio: lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.