Datganiadau i'r Wasg

Baner y Sgowtiaid, a oedd yn gwmni i Scott ar ei daith i’r De, yn rhan o’r casgliad cenedlaethol

Pan ddychwelodd y Terra Nova – llong Alldaith Antarctig Capten Scott – i’w chartref ym mhorthladd Caerdydd ar 14 Mehefin 1913, roedd y Lluman Gwyn yn cyhwfan dros y starn, y Ddraig Goch o’r prif hwylbren ac arfbais dinas Caerdydd o’r hwylbren blaen. Ond roedd banner arall, llai i’w gweld wrth y blaen hefyd, sef baner werdd 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd. 

I nodi 100 mlynedd ers i’r Terra Nova ddychwelyd adref, mae Amgueddfa Cymru wedi derbyn

baner 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd

yn rhan o gasgliadau tecstilau Cymru. Mae bellach yng nghwmni dwy faner arall Gymreig y Terra Nova addychwelodd gyda’r llong i Gaerdydd wedi’r alldaith. 

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Cymru.