Datganiadau i'r Wasg

Celf yn sbardun addysg gyda help y Glannau

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Ynystawe wedi troi at Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ysbrydoliaeth ar gyfer project cenedlaethol amlwg.

Mae’r plant artistig wedi bod yn dysgu am hanes Cymru er mwyn datblygu syniadau ar gyfer cynllun Take One Picture yr Oriel Genedlaethol.

Lansiwyd y cynllun yn 2005, can ddefnyddio un paentiad yn yr Oriel Genedlaethol fel sbardun i waith ar draws y cwricwlwm mewn ystafelloedd dosbarth cynradd.

Bydd athrawon yn derbyn print o baentiad, a sialens yr ysgolion yw defnyddio’r ddelwedd mewn modd dychmygus.

Dyma ysgol Ynystawe yn edrych ar y llun enwog Still Life with a Drinking Horn gan Willem Kalf (tua 1653). Yn y paentiad gellir gweld gwrthrychau fel cimwch, llestr yfed cain, carped, lemwn ar hanner ei agor a chorn yfed byfflo ar grud arian cain.

Roedd y paentiad yn sbardun i’r disgyblion fynychu sesiynau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gan gynnwys Food from the Sea, sy’n trafod rôl bwysig y môr yn hanes Cymru, traddodiad yr arfer o gasglu cocos ym Mae Abertawe a diwydiant cregyn gleision gogledd Cymru. Dyma  nhw hefyd yn dysgu nifer o ffeithiau diddorol am bob math o fwyd sy’n cael ei bysgota yn nyfroedd Cymru – cimychiaid, crancod, wystrys, gwichiaid a bara lawr traddodiadol.

Wrth siarad am weithio gyda’r Amgueddfa, meddai’r Dirprwy Brifathrawes Sarah Williams: “Mae’r dull hwn o ddysgu wedi sbarduno dychymyg y disgyblion gan roi cyfle iddyn nhw fod yn greadigol wrth ymchwilio, arsylwi, cofnodi, arbrofi, datblygu syniadau a chreu.

“Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i ddysgu am hanes o lygad y ffynnon yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.”

Siaradodd y Swyddog Addysg, Mandy Westcott, am gyfraniad yr Amgueddfa gan ddweud: “Roeddem wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio gydag ysgol Ynystawe a’u helpu gyda’r project. Roedd yn gyfle gwych iddyn nhw ddatblygu eu dealltwriaeth o hanes morwrol Cymru a chasglu syniadau newydd i’w defnyddio yn eu project.”

Caiff y gwaith celf terfynol ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol o 22 Mehefin i 22 Medi.

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.