Datganiadau i'r Wasg

Datgelu hanes Mantell Aur yr Wyddgrug mewn arddangosfa newydd

Y Fantell yn dychwelyd i Gaerdydd a Wrecsam

Ers amser maith, ystyriwyd Mantell Aur yr Wyddgrug yn wrthrych eiconig sy’n cysylltu Cymry heddiw â’u gorffennol hynafol. Bydd y fantell aur ddefodol yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 2 Gorffennaf ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam o 8 Awst 2013, law yn llaw â gwaith ymchwil newydd sy’n datgelu rhai o gyfrinachau’r gwrthrych Oes Efydd dirgel.

Cafodd Mantell Aur yr Wyddgrug – un o brif atyniadau’r Amgueddfa Brydeinig – ei darganfod ar 11 Hydref 1833, ar gyrion dwyreiniol yr Wyddgrug, Sir y Fflint. Wrth i weithwyr lenwi pwll gro ar ymyl ffordd daeth gwrthrych aur i’r golwg ymhlith y cerrig. Heddiw, fe’i hystyrir yn un o’r campweithiau gorau o grefftwaith aur o’r Ewrop gynhanesyddol. Mantell ddefodol ydoedd, arwydd o statws, a chredir iddi gael ei gwisgo gan arweinydd crefyddol.

Yn seiliedig ar waith ymchwil diweddar Stuart Needham, Cymrodor Anrhydeddus Amgueddfa Cymru, erbyn hyn gallwn dybio fod rhai o’r darnau o eurddalen y cafwyd hyd iddynt yn y bedd yn perthyn i ail fantell, gynharach. Ymddengys fod traddodiad unigryw o greu mentyll yn y gogledd ddwyrain.

Mae canfyddiadau newydd hefyd yn awgrymu mai dynes o gryn bwys fyddai wedi gwisgo’r fantell, yn hytrach na dyn fel y tybiwyd. Hefyd, gellir cadarnhau gwir oedran y bedd hwn a’r gwrthrychau hynod ynddo, sef tua 3,700 o flynyddoedd oed, o’r Oes Efydd Gynnar.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Trwy weithio mewn partneriaeth ag amgueddfeydd megis yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, gallwn sicrhau y gall pawb gael mynediad at wrthrychau gwerthfawr fel Mantell Aur yr Wyddgrug, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Mae ein harddangosfa newydd, a ysgrifennwyd ar y cyd ag Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam, yn cyflwyno’r fantell mewn goleuni newydd, gwahanol, ac yn tanlinellu ei lle ymhlith archaeoleg gyfoethog ac unigryw'r Oes Efydd yn y gogledd ddwyrain.

“Ac mae llawer mwy i’w ddarganfod eto. Efallai y cawn, trwy waith ymchwil daearegol ac archaeolegol y dyfodol, ddysgu o ble’n union y daeth yr aur – o’r ffynonellau o aur Cymreig tybed? – gan adlewyrchu cyfoeth mwynol Cymru ers y cyfnod cynhanesyddol.”

Meddai’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths:

"Mae Mantell Aur yr Wyddgrug yn wrthrych eiconig ac rwy’n falch iawn o’i gweld yn dychwelyd i Gymru unwaith eto. Rwy’n falch iawn hefyd o weld ein hamgueddfeydd cenedlaethol a lleol yn meithrin perthynas mor gynhyrchiol â’r Amgueddfa Brydeinig. Gobeithiaf y bydd trigolion Cymru o Fôn i Fynwy yn manteisio ar y cyfle euraidd i weld crefftwaith arbennig y Fantell a dysgu mwy am ein gorffennol drwyddi."

Bydd Mantell Aur yr Wyddgrug yn cael ei harddangos ochr yn ochr â thrysorau’r casgliadau archaeolegol cenedlaethol yn oriel Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 2 Gorffennaf a 4 Awst cyn cael ei harddangos yn Amgueddfa ac Archifdy Bwrdeistref Sirol Wrecsam rhwng 8 Awst ac 14 Medi 2013. Bydd modd ei gweld yn rhad ac am ddim yn y ddau leoliad fel rhan o deithiau Spotlight a drefnir trwy Gynllun Partneriaeth y DU yr Amgueddfa Brydeinig.

Yn y dyfodol agos, bydd casgliadau cain Amgueddfa Cymru o wrthrychau’r Oes Efydd yn cael eu symud i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru i orielau archaeoleg a hanes cyfun newydd. Rydyn ni yn y broses o ailddatblygu’r Amgueddfa diolch i gymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn creu amgueddfa unigryw lle bydd ymwelwyr yn gallu archwilio hanes pobl Cymru dros gyfnod o 200,000 o flynyddoedd.