Datganiadau i'r Wasg

Io ho ho a hwyl i bawb ym Mhenwythnos Môr-Ladron yr Amgueddfa!

Bydd digonedd o hwyl am ddim i’r teulu dros y penwythnos gyda gweithgareddau môr-ladron yn llenwi dau ddiwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Hwyliwch draw i’r amgueddfa yng nghanol y dref i fwynhau llu o weithgareddau morwrol rhwng 11am a 4pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul (10 a 11 Awst).

Trowch eich llaw at ein replica o beiriant creu rhaffau o’r 19eg ganrif  19th, crëwch het neu batsyn llygad môr-leidr eich hun, neu greu a phrofi cwch sy’n arnofio.

Bydd cyfle hefyd i’r plant ymarfer eu sgiliau cleddyfa mewn gweithgaredd ffensio ffyrnig (dydd Sadwrn yn unig), clywed straeon syfrdanol gan fôr-leidr yr Amgueddfa ei hun, neu fynd ar helfa drysor o amgylch yr orielau.

Byddwn ni hefyd yn croesawu ymwelwyr pluog i’r Amgueddfa o’r Parrott Society ym Mhen-y-bont, a cofiwch gadw llygad am Capten Jack Sparrow fydd yn galw draw i ddweud helo!

Wrth siarad am y penwythnos sydd i ddod, dywedodd y Cynorthwy-ydd Digwyddiadau Andrew Kuhne: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y gweithgareddau sydd wedi’u trefnu ar gyfer y penwythnos. Bydd digon i ddiddori’r teulu i gyd a’r cyfan am ddim.”

Yn ogystal â’r gweithgareddau, mae’r orielau a’r arddangosiadau dros dro – gan gynnwys Camlesi Cymru, golwg ddiddorol ar ddatblygiad dyfrffyrdd Cymru dros 200 mlynedd – yn atyniadau sy’n gwneud Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lle gwych i ymweld â hi dros y penwythnos.

Cofiwch hefyd am y gweithdy crefftau campus i blant yn eu harddegau am 1.30pm dydd Sadwrn. Cyfle i weddnewid hen ddefnydd ac oelcloth yn fagiau ymbincio prydferth gyda drychau llaw i fatsio!

Mae’r gweithdy am ddim, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw (029) 2057 3600.

DIWEDD