Datganiadau i'r Wasg

Penwythnos Trenau Bach - Galw yn y Glannau

Bydd digon o godi stem yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn wrth i’r Penwythnos Trenau Bach gael ei gynnal rhwng 11am a 4pm ar ddydd Sadwrn 31 Awst a dydd Sul 1 Medi.

Bydd yn gyfle i ymwelwyr weld traciau rheilffordd 20 troedfedd o hyd, cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, prynu nwyddau yn y stondinau arbennig a gwylio arddangosiadau modelu.

Bydd cyfle hefyd i’r teulu cyfan fynd ar daith arbennig o amgylch yr Amgueddfa i ddysgu am 300 mlynedd o hanes Cymru.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at benwythnos llawn hwyl i’r teulu cyfan,” meddai’r Cynorthwy-ydd Digwyddiadau, Andrew Kuhne.

“Os ydych chi am roi cynnig ar adeiladu rheilffordd fodel o friciau K’NEX, neu am bori drwy’r stondinau’n gwerthu nwyddau model – galwch draw a mwynhau diwrnodau olaf gwyliau’r haf gyda ni yn yr Amgueddfa.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch  â Marie Szymonski ar (029) 2057 3616.