Datganiadau i'r Wasg

Gwyddoniaeth a Gwrachod yn y Glannau dros Hanner Tymor!

Gyda gwyliau hanner tymor ar y gorwel, bydd digon i ddiddanu’r teulu cyfan yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Gan gychwyn ar ddydd Llun 28 Hydref tan ddydd Sul 3 Tachwedd (12pm-3.30pm) dewch i fwynhau Gwyddoniaeth Wych lle bydd cyfle i deuluoedd chwarae gyda phwti penwan a dysgu sut mae cynnau’r golau heb drydan. Bydd yn weithgaredd cyffrous gan dîm Materials Live Prifysgol Abertawe.

Yna ar ddydd Iau 31 Hydref, byddwch yn barod am fraw wrth i ni ddathlu Calan Gaeaf mewn steil gyda Noson o Arswyd yn yr Amgueddfa am 6pm.

Ymunwch â ni pan fo’r nos yn ddu i ddarganfod y byd dychrynllyd tu ôl i’r llenni yn un o adeiladau mwyaf eiconig Abertawe. Bydd gweithgareddau ymarferol gan gynnwys taith cast neu geiniog o amgylch yr orielau tywyll, creu mwgwd anghenfil neu sgerbwd sy’n symud, adrodd hanesion hyll neu fwynhau gwyddoniaeth ddychrynllyd.

Penllanw’r noson fydd dangos ffilm 3D boblogaidd i’r teulu yn Oriel y Warws am 6pm. Codir tâl o £2 y pen a rhaid archebu lle, ffoniwch (029) 2057 3600.

Meddai Pennaeth yr Amgueddfa, Steph Mastoris, “Dyma ddechrau arbennig i raglen y gaeaf. Gyda’r nos yn mynd yn hir a’r tywydd yn dechrau oeri, pa amser gwell i ymweld â ni er mwyn i bob aelod o’r teulu gael mwynhau ein rhaglen greadigol, addysgol, llawn hwyl sy’n rhad ac am ddim.”

DIWEDD

Ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk am fanylion neu ffoniwch (029) 2057 3600.

Lawrlwythwch ein llyfryn Digwyddiadau newydd (Tachwedd-Chwefror) nawr www.amgueddfacymru.ac.uk/abertawe