Datganiadau i'r Wasg

Disgyblion lleol yn meddiannu’r Amgueddfa

Ar ddydd Llun 18 Tachwedd, bydd disgyblion lleol Ysgol Gynradd Clwyd yn Abertawe yn cyfnewid eu gwerslyfrau am wrthrychau hanesyddol, wrth iddyn nhw feddiannu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Trefnwyd y digwyddiad fel rhan o Kids in Museums, menter ar draws y DU sy’n rhoi cyfle i blant a phobl ifanc wylio staff wrth eu gwaith, cyfrannu at benderfyniadau a lleisio’u barn ar faterion allweddol. 

I fwy na 29 o ddisgyblion 9 a 10 oed, bydd hwn yn gyfle unigryw i weithio gyda’r awdur a’r darlunydd lleol, Thomas Docherty, a dewis 10 gwrthrych allweddol cyn eu troi’n lwybr a/neu weithgaredd ar gyfer ymwelwyr eraill.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn cymryd rhan yn y Diwrnod Meddiannu eto eleni,” meddai’r Swyddog Addysg Ffurfiol Mandy Westcott. “Bydd yn gyfle gwych i’r disgyblion fynd i’r afael â thrysorau cudd yr Amgueddfa ac i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd y tu hwnt i’r stafell ddosbarth.”

Wrth drafod y diwrnod, dywedodd Swyddog Lles Ysgol Gynradd Clwyd, Jonathan Kidwell: “Mae’r plant yn llawn cyffro o gael y cyfle arbennig hwn i chwilota yn yr Amgueddfa. Er eu bod nhw wedi ymweld o’r blaen, mae’n gyfle iddyn nhw ddewis pethau sydd o ddiddordeb iddyn nhw ac i gydweithio er mwyn rhannu hyn ag ymwelwyr eraill.”

Meddai Dea Birkett, Cyfarwyddwr Kids in Museums: “Rydyn ni wrth ein bodd y bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnal Diwrnod Meddiannu yng Nghymru, gan roi lle pwerus a phwrpasol i blant mewn amgueddfa.

“Pa syndod bod yr Amgueddfa’n cynnig cymaint i blant gan iddi ennill Gwobr Amgueddfa Ystyriol o Deuluoedd. Mae digwyddiadau fel yma yn brawf arall o hyn.”

DIWEDD

Nodiadau i’r golygydd

Am ragor o wybodaeth am y Diwrnod Meddiannu a phwy sy’n cymryd rhan, ewch i www.kidsinmuseums.org.uk/takingover a’u dilyn ar Twitter @takeovermuseums