Datganiadau i'r Wasg

Profiad y Pictiwrs - Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn dangos ei ffilm gyntaf ers 35 mlynedd

1.00pm 24.08.2004

Os ydych chi'n ddigon hen i gofio'r amser pan roedd sinemâu yng nghanol y dre, gyda thywyswragedd a cherddoriaeth danbaid ar yr organ, bydd atgofion melys gennych chi am fynd i'r 'pictiwrs'. Hen sinemâu Deco mawr crand, neuaddau pentref a Sefydliadau'r Gweithwyr oedd y rhain am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif. Yfory, bydd Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Amgueddfa Werin Cymru yn agor y Pictiwrs i ymwelwyr am y tro cyntaf ers iddo ddod Amgueddfa ym 1995 ac am y tro cyntaf ers i'r fframiau seliwloid olaf wibio ar draws y sgrin cyn i'r pictiwrs gau eu drysau am y tro olaf.

Agorodd Sefydliad Gweithwyr Oakdale ar ddydd Llun, 10 Medi 1917. Roedd Llyfrgell, Ystafell Ddarllen ac Ystafell Bwyllgora yn y 'Stiwt, ynghyd â Neuadd Gyngherddau (Neuadd Fach) oedd yn llenwi'r llawr cyntaf i gyd. Roedd Ystafell Filiards ar wahân mewn adeilad to gwastad y tu ôl i'r 'Stiwt oedd yn cysylltu â'r prif adeilad. Yn ddiweddarach adeiladwyd neuadd gyhoeddus fwy o faint ar ben yr ystafell filiards i'w defnyddio fel Sinema. Yr enw gwreiddiol ar y neuadd fwy oedd y New Hall and Cinema ond o dipyn i beth, daeth pobl i'w hadnabod fel y Pictiwrs. Daeth y Pictiwrs yn fyw i'r cwsmeriaid cyntaf ym 1927 wrth ddangos 'April Showers' ar y sgrin fawr.

Penododd Pwyllgor Sinema'r 'Stiwt staff i redeg y Pictiwrs. Ar y staff roedd tafluniwr a thair tywyswraig yng ngwisg arbennig y 'Stiwt. Yn ystod y 1920au, prynwyd cefndir arbennig o Lundain am £15. 10s. (£15.50) a chyflogwyd cerddorfa fechan i chwarae cyfeiliant i'r ffilmiau. Parodd y gerddorfa ddim yn hir iawn, ac ychydig fisoedd cafodd Madame Templeman ei phenodi'n Gyfarwyddwraig Cerddorol y Pictiwrs ym 1929. Mae un o selogion y Pictiwrs yn cofio dan chwerthin "Dyna lle byddai Mrs Templeton yn chwarae, doedd dim siarad, ond byddai'r geiriau'n dod i fyny ar waelod y sgrin fel Pobol y Cwm. Dyna lle byddai hi'n chwarae gan siglo nôl a 'mlaen ar hen sedd biano... byddech chi'n trio gwylio'r ffilm a dyna lle byddai hi'n gwneud rhyw hen sŵn clecian ar y piano oedd fel ceffylau'n carlamu!"

Cafodd y ffilmiau olaf eu dangos yn y 'Stiwt ddiwedd y 1960au a chaeodd Sefydliad Gweithwyr Oakdale ym 1987. Ym 1989 cafodd yr adeilad ei ddatgymalu fesul carreg a'i gludo i Sain Ffagan. Gwaetha'r modd, roedd y sinema'n rhy fawr ac ni chafodd ei symud i'r amgueddfa.

Heddiw, caiff y Pictiwrs eu hail-greu yn y Neuadd Fach. Bydd staff y sinema yn eu gwisgoedd o'r 1930au, wrth law i groesawu ymwelwyr i fwynhau cyfle cyffrous a phrin i weld ffilm fud fer o'r 1930au o'r enw Hen Grefftau Cymru. Cynhyrchydd y ffilm oedd Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd Urdd Gobaith Cymru, mab yr arloeswr addysg a thad rheolwr cyntaf S4C, Owen Edwards.

Mae'r ffilm ddu a gwyn yn perthyn i archif Awdio-weledol helaeth yr Amgueddfa. Cafodd ei ffilmio ym mhob cwr o Gymru ac mae'n dangos crefftau oedd yn prysur ddiflannu. Mae'r crydd, y melinwr, y cerfiwr llwyau pren a'r cerfiwr llestri ymysg ei sêr dirodres. Aeth Syr Ifan i wneud ffilmiau eraill, gan gynnwys y llun llafar cyntaf yn Gymraeg, Y Chwarelwr ym 1935. Ei nod oedd dogfennu ac achub yr un hen draddodiadau a chrefftau Cymreig prin a ysbrydolodd Dr Iorwerth Peate, sylfaenydd yr Amgueddfa Werin.

Mae Betsan Evans, Dehonglydd Addysgol Sain Ffagan ac arweinydd project y Pictiwrs wrth ei bodd i gael cyfle i ddangos y ffilm neilltuol hon yn y 'Stiwt am y tro cyntaf ers tro byd. "Dyma gyfle gwych i ail-greu cyffro a bwrlwm y pictiwrs oedd yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol cymuned Oakdale, a dangos ffilm sy'n adlewyrchu ein casgliad a'n pwrpas yn Sain Ffagan. Rydw i wrth fy modd ar gael ein sinema ni ein hunain ac yn edrych ymlaen yn fawr at wisgo'r wisg a thywys ein hymwelwyr i'w seddi am y tro cyntaf."

 

Gallwch weld Hen Grefftau Cymru ym Mhictiwrs Oakdale am 1.00pm a 3.00pm, dydd Mawrth 24 - dydd Sadwrn 28 Awst.

Mae mynediad i'r Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.