Datganiadau i'r Wasg

Penodi 3 Ymddiriedolwr, un i fod yn Ddarpar Drysorydd, i Amgueddfa Cymru

Mae Llywodraeth Cymru ac Amgueddfa Cymru am benodi Trysorydd a dau Ymddiriedolwr.

Mae'r Amgueddfa'n un o brif sefydliadau diwylliannol Cymru ac mae’n mynd ati i gynnal rhaglen ddatblygu gyffrous. Mae'n Elusen Gofrestredig ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, a'i hamcan, yn unol â'i Siarter Frenhinol, yw ‘hyrwyddo addysg y cyhoedd’. Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am 7 Amgueddfa unigol ledled Cymru, yn ogystal â Chanolfan Gasgliadau Genedlaethol, ac mae dros 1.7 miliwn o bobl yn ymweld â'i safleoedd bob blwyddyn. Mae gan yr Amgueddfa gasgliadau sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol ac mae'n gwneud gwaith ymchwil helaeth sy’n seiliedig ar y casgliadau hynny. Mae ganddi raglen bartneriaeth fywiog gydag amgueddfeydd ac orielau ym mhob cwr o Gymru, yn ogystal â rhaglen o fenthyca a chyfnewid gydag orielau mewn rhannau eraill o'r DU a ledled y byd. Mae hefyd yn cynnig rhaglenni cyhoeddus cadarn ar gyfer ymwelwyr o bob oedran, gan gynnwys rhaglen ar gyfer ysgolion sy'n cynnig cyfleoedd cyfoethog i blant gymryd rhan a dysgu.

Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno penodi 1 Ymddiriedolwr i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa. Yn ogystal, mae’r Amgueddfa’n dymuno penodi 2 Ymddiriedolwr i’r Bwrdd, gyda’r nod o benodi un ohonynt yn Drysorydd pan fydd y Trysorydd presennol yn ymddeol ym mis Tachwedd 2014. Bydd rolau a chyfrifoldebau pob Ymddiriedolwr yn union yr un fath, p'un ai a gaiff ei benodi gan Lywodraeth Cymru neu gan yr Amgueddfa. Bydd gan y Trysorydd gyfrifoldebau ychwanegol fel y nodir isod.

Bydd disgwyl i Ymddiriedolwyr fod â diddordeb yng ngwaith ehangach yr Amgueddfa. Bydd profiad o weithio ar lefel bwrdd a diddordeb yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru yn allweddol, a bydd disgwyl i un o’r rheini a benodir fod â phrofiad penodol o fasnach a busnes. Mae dealltwriaeth o’r berthynas rhwng yr Amgueddfa a Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r sector diwylliannol ehangach, a chyfrifoldebau Ymddiriedolaeth, hefyd yn bwysig. Bydd un Ymddiriedolwr yn dechrau ar ei swydd ar 1 Mehefin 2014 a’r llall ar 1 Rhagfyr 2014. Yr ymrwymiad amser ar gyfer swydd Ymddiriedolwr fydd 12 diwrnod y flwyddyn o leiaf.

Yn ogystal â dyletswyddau’r Ymddiriedolwr, bydd y Trysorydd a benodir yn ffurfiol gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr yn arwain ar holl faterion ariannol yr Amgueddfa gan gydweithio â’r Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol. Bydd y Trysorydd yn dechrau ar ei swydd ar 1 Rhagfyr 2014. Fodd bynnag, caiff ei benodi’n Ymddiriedolwr ar 1 Mehefin 2014 er mwyn ymgyfarwyddo â gwaith yr Amgueddfa a’i gyd-destun ariannol a gweithio ochr yn ochr â’r Trysorydd presennol yn ystod y cyfnod hwnnw. Rhagwelir mai’r ymrwymiad amser ar gyfer swydd y Trysorydd fydd 36 diwrnod y flwyddyn o leiaf.

Hyd y penodiadau ar gyfer swyddi’r Ymddiriedolwyr a’r Trysorydd yw 4 blynedd i ddechrau.

Nid yw'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swyddi hyn ond bydd yn rhaid i'r ymgeiswyr llwyddiannus fod yn hapus i weithio mewn amgylchedd dwyieithog, gan ddangos ymrwymiad cryf, parch a dealltwriaeth o ddwyieithrwydd a'r iaith Gymraeg ym maes diwylliant ac yng nghymunedau Cymru. Mae gan yr Amgueddfa raglenni cynhwysfawr i gynorthwyo pobl i ddysgu'r iaith.

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn. Cynhelir y cyfarfodydd yn gyhoeddus a darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. Cynhelir y rhan fwyaf ohonynt yng Nghaerdydd, naill ai yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd neu yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a bwriedir cynnal un cyfarfod y flwyddyn y tu allan i Gaerdydd.

Yng Nghaerdydd yn bennaf y lleolir y gweithgareddau y bydd disgwyl i'r Ymddiriedolwyr ymgymryd â hwy, ond bydd angen teithio hefyd i ganghennau'r Amgueddfa ledled Cymru, ynghyd ag amgueddfeydd ac orielau eraill sy'n rhan o gynllun partneriaeth, gan fynd i gyfarfodydd a digwyddiadau yn ôl y gofyn.

Nid yw'r Ymddiriedolwyr yn cael cydnabyddiaeth ariannol ar hyn o bryd, ond mae'r Siarter ddiwygiedig yn rhoi'r pŵer i gynnig cydnabyddiaeth ariannol i Ymddiriedolwyr. Fodd bynnag, er bod y Comisiwn Elusennau wedi dweud yn glir na fydd yn gwrthwynebu hyn, bydd yn rhaid profi i'r Comisiwn bod unrhyw gynnig yn y dyfodol i ddefnyddio'r pŵer hwn i dalu'r Ymddiriedolwyr, naill ai fel corff neu fel unigolion, o fudd i'r Elusen. Serch hynny, telir costau teithio a threuliau rhesymol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.cymru.gov.uk/penodiadaucyhoeddus neu os oes gennych ymholiadau, cysylltwch â (029) 2082 5454 / hr-helpdesk@cymru.gsi.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Amgueddfa, ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu cysylltwch ag Elaine Cabuts, Ysgrifennydd yr Amgueddfa, drwy ffonio (029) 2057 3204 neu e-bostio elaine.cabuts@museumwales.ac.uk.

Mae’n bolisi gan Lywodraeth Cymru a'r Amgueddfa fel ei gilydd i hyrwyddo cyfle cyfartal a’i ymgorffori ym mhob agwedd ar eu gwaith gan gynnwys penodi i gyrff cyhoeddus. Rydym felly yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl sy'n perthyn i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd, ac rydym yn sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd cymwys ar gyfer penodiad cyhoeddus yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail oedran, anabledd, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu feichiogrwydd a mamolaeth.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 20 Rhagfyr 2013. Ni fyddwn yn ystyried ceisiadau a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad hwnnw. Disgwylir i’r cyfweliadau gael eu cynnal yng Nghaerdydd canol mis Chwefror.

I gael fersiwn print bras, Braille neu fersiwn sain o’r hysbyseb hon, cysylltwch â 029 2082 5454.

Regulated by The Commissioner for Public Appointments
Regulated by The Commissioner for Public Appointments