Datganiadau i'r Wasg

Ehangu Cyfleusterau Cynadledda Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn lansio cyfleusterau cynadledda newydd sydd â golygfeydd dros Farina y ddinas.

Caiff Ystafell Ocean ei hagor yn swyddogol ar 28 Tachwedd, a gwahoddwyd trefnwyr digwyddiadau o bob cwr o Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot i gael cip ar y lleoliad, mwynhau cinio am ddim a manteisio ar ostyngiadau arbennig i’r dyfodol.

Gall Ystafell Ocean ar lawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddal hyd at 120 o bobl ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd a digwyddiadau. Mae’r ystafell yn dyblu darpariaeth cynadledda presennol r Amgueddfa. Gwahoddir trefnwyr digwyddiadau i ‘alw draw’ am ginio rhwng 12pm a 2pm ar ddydd Iau 28 Tachwedd.

Meddai llefarydd dros yr Amgueddfa: “Mae agor Ystafell Ocean fel man cynadledda yn ddatblygiad cyffrous i’r Amgueddfa ac yn galluogi i ni groesawu grwpiau llawer mwy i’n horielau ar gyfer priodasau, ciniawau a dawnsfeydd. Cyn hyn roedd ein darpariaeth wedi’i gyfyngu i 60 o bobl.

"Gan ymateb i alw gan gwsmeriaid, rydym wedi datblygu Ystafell Ocean ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu busnesau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill i weld y cyfleusterau ar 28 Tachwedd."

Gellir llogi Ystafell Ocean ar gyfer y dydd neu’r nos ac mae’n berffaith ar gyfer ciniawau i hyd at 80 o bobl, diwrnodau hyfforddi, cynadleddau, derbyniadau diodydd a chyfarfodydd. Gall Elior, ein partneriaid arlwyo treftadaeth arbenigol, ddarparu lluniaeth.

Drwy logi ystafell yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mae cwmnïau a sefydliadau yn cefnogi Amgueddfa Cymru fel elusen gofrestredig.

Am ragor o fanylion am y lansiad ar 28 Tachwedd, i anfon RSVP neu i ddatgan diddordeb cysylltwch â’r Tîm Llogi Cyfleusterau drwy ffonio (029) 2057 3600 neu e-bostio llogi@amgueddfacymru.ac.uk.