Datganiadau i'r Wasg

Tystiolaeth bellach o gyswllt Gorllewin Cymru â Chôr y Cewri

Ymchwil newydd yn canfod union darddiad doleritau smotiog Côr y Cewri

 

Cyn hir caiff papur newydd ei gyhoeddi gan Dr Richard Bevins (Amgueddfa Cymru), Dr Rob Ixer (y Ganolfan Archaeoleg, UCL) a’r Athro Nick Pearce (Prifysgol Aberystwyth) yn y Journal of Archaeological Science, sy’n datgelu tarddiad cyfran helaeth o un math o garreg las a welir yng Nghôr y Cewri.

 

Yn 2011, cadarnhaodd Bevins ac Ixer am y tro cyntaf union leoliad rhai o’r cerrig gleision a elwir yn rhyolitau (craig igneaidd llawn silica). Datgelodd eu hymchwil taw’r tarddiad oedd brigiad amlwg Craig Rhos y Felin ger Crymych, Sir Benfro. Mae’r ddau bellach, ynghyd â Pearce, yn hyderus eu bod wedi canfod tarddiad un o’r cerrig gleision blaenllaw eraill – y dolerit smotiog (craig igneaidd heb lawer o silica yn cynnwys smotiau newid amlwg)

 

Dadl arbenigwyr yw bod y clogfeini ‘sarsen’ mawr yn tarddu o gyffiniau Côr y Cewri a Gwastatir Caersallog. Mae tarddiad y cerrig gleision llai wedi bod yn destun ymchwil ers blynyddoedd lawer, er nad oes llawer o waith wedi’i wneud yn mireinio ymchwil gwreiddiol y daearegwr Herbert Henry Thomas ym 1923.

 

Cyhoeddodd H.H. Thomas o’r Arolwg Daearegol bapur yn The Antiquaries Journal yn honni iddo ganfod taw tarddiad y doleritau smotiog oedd brigiadau cerrig yn uchel ym mynyddoedd y Preseli, i’r gorllewin o Grymych. Ei farn oedd taw moelydd Carn Meini a Cerrig Marchogion oedd y tarddiad. Aeth ati i ddamcaniaethu hefyd ar sut yr aeth dynion ati i gludo’r cerrig i Wastatir Caersallog, gan ffafrio taith dros dir yn hytrach na thros dir a môr. O ganlyniad i ddamcaniaethau Thomas mae cloddiadau archaeolegol diweddar wedi canolbwyntio ar ganfod chwareli yn ymwneud â Chôr y Cewri ar Garn Meini.

 

Defnyddiodd Bevins, Ixer a Pearce dechnegau geocemegol i gymharu samplau o gerrig a rwbel Côr y Cewri â chanfyddiadau Thomas, yn ogystal â data geocemegol a gyhoeddwyd yn nechrau’r 1990au gan Richard Thorpe a’i dîm yn y Brifysgol Agored. Canlyniad y canfyddiadau presennol yw bod mwyafrif y doleritau smotiog mewn gwirionedd yn dod o Garn Goedog – tua 1.5km o ddyfaliad gwreiddiol Thomas yng Ngharn Meini.

Meddai Dr Richard Bevins (Amgueddfa Cymru) sydd wedi bod yn astudio daeareg Sir Benfro ers 30 mlynedd a mwy:

“Pan gyhoeddwyd rhan gyntaf ein hymchwil yn 2011, dyma ni’n datgan ein hymrwymiad i barhau i ymchwilio i’r maes, ac rydyn ni wedi ychwanegu at y gwaith gwreiddiol hwnnw â phapurau yn 2012 a 2013. Rydw i’n falch iawn ein bod wedi gallu parhau i ddychwelyd at y pwnc ac astudio ymhellach y meini hirion a’r rwbel yng Nghôr y Cewri!

"Mae gan Sir Benfro ddaeareg unigryw, a dyna pam dwi wedi treulio cymaint o amser yn yr ardal. Gall yr ardal ein helpu gymaint, i ddeall yn well yr hyn sy’n digwydd wrth i fagma ffrwydro o losgfynyddoedd tanddwr a sut y caiff y creigiau igneaidd yma eu gweddnewid yn ddiweddarach gan gynnydd tymheredd a gwasgedd. Mae’r ffaith i’r creigiau igneaidd yma gael eu defnyddio i adeiladu Côr y Cewri hefyd yn bwysig, oherwydd dim ond wedi i ni ganfod yr union darddiad daearyddol allwn ni ddeall arwyddocâd llawn yr archaeoleg.

“Rwy’n gobeithio y bydd ein canfyddiadau gwyddonol diweddar yn cyfrannu at y ddadl barhaus am sut y cludwyd y cerrig i Wastatir Caersallog.”

Meddai Dr Rob Ixer, a astudiodd gerrig gleision Côr y Cewri am y tro cyntaf chwarter canrif yn ôl:

“Fel y gwelir yn y papur hwn a phapurau blaenorol, roedd y cyfan bron a gredwyd am y cerrig gleision ddeg mlynedd yn ôl yn rhannol neu’n gwbl anghywir. Rydyn ni megis dechrau cywiro’r hyn a byddwn ni’n parhau i astudio’r cerrig gleision i ganfod atebion. Mae’r papur hwn yn rhan bwysig o’r gwaith a rhaid iddo ein harwain ni (ac eraill) i ail-astudio’r meini hirion, y rwbel a’r chwareli posibl er mwyn canfod eu tarddiad cywir.”