Datganiadau i'r Wasg

Cyfarwyddwr Newydd Artes Mundi yn datgelu’r rhestr fer am y wobr fwyaf yn y Deyrnas Unedig am gelf gyfoes

Cafodd y rhestr fer am chweched wobr Artes Mundi ei chyhoeddi heddiw (12 Rhagfyr 2013) gan Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr a Churadur newydd Artes Mundi. Mae’n cynnwys artistiaid rhagorol o wyth gwlad:Carlos Bunga (Portiwgal), Karen Mirza a Brad Butler (y Deyrnas Unedig), Omer Fast (Israel), Theaster Gates (UDA), Sanja Iveković (Croatia), Ragnar Kjartansson (Gwlad yr Iâ), Sharon Lockhart (UDA), Renata Lucas (Brasil), Renzo Martens (yr Iseldiroedd).

Y ddau a wahoddwyd i ddewis y rhestr oedd Adam Budak, sydd ar hyn o bryd yn guradur annibynnol yn Washington, a Sabine Schaschl, Cyfarwyddwr a Churadur Amgueddfa Haus Konstruktiv, Zurich. Bu’r ddau wrthi’n adolygu 800 o enwebiadau o 70 gwlad cyn dewis y rhestr fer. Roeddynt yn chwilio yn arbennig am artistiaid y mae eu gwaith yn archwilio ac yn cynnig sylwadau ar y cyflwr dynol a phrofiad y mae pobl wedi byw drwyddo.

 

Mae rhestr fer eleni yn ddetholiad amrywiol o artistiaid rhyngwladol sy’n rhychwantu gwahanol genedlaethau a diwylliannau. Mae’n cynnwys rhai o arloeswyr rhyngwladol y byd celf gyfoes ddiweddar, ac mae cael y cyfle i arddangos eu gwaith yn yr arddangosfa bwysig hon yn gaffaeliad diwylliannol enfawr i Gymru.

 

Bydd Arddangosfa 6 Artes Mundi yn dathlu ac yn holi sut y mae’r artistiaid ar y rhestr fer yn mynd ati i archwilio themâu sy’n gyffredin ledled y byd. Mae’r artistiaid Renata Lucas, Carlos Bunga a Theaster Gates oll yn treiddio i arena hynod gystadleuol gofod trefol, gan ddinoethi gwleidyddiaeth y rheolaeth gymdeithasol sy’n diffinio pob un ohonom. Mae’r amgylchedd trefol beunyddiol yr ydym oll yn ei gymryd yn ganiataol yn cael ei ddatgelu i fod yn faes y gad sy’n brwydro am ein meddyliau, ein calonnau, ein waledi a’n hufudd-dod. Trwy ystod eang o gyfryngau ac ymgysylltu personol, mae eu gwaith yn tynnu sylw at y grymoedd sy’n brwydro dros yr unigolyn a’r strategaethau posibl sy’n rhoi modd i unigolion gael rhywfaint o reolaeth dros eu bywydau eu hunain. Mae Sanja Iveković, Omer Fast a Renzo Martens yn parhau â’r llinyn hwn, ond maent yn fwy penodol wrth fynd i’r afael â chynrychiolaeth a manipwleiddio yn y cyfryngau, gan edrych ar y rhith-fannau yr ydym yn byw ynddynt yn ein meddyliau ein hunain ac yn y bydoedd diwylliannol a rennir.

 

Mae llawer o’r artistiaid sydd ar y rhestr fer yn cydweithio ag unigolion a chymunedau. Er enghraifft, mae ffilmiau a ffotograffau barddonol Sharon Lockhart wedi golygu cydweithio’n agos dros gyfnod hir o amser â grwpiau ac unigolion o rannau anweledig cymdeithas, y rhai heb gynrychiolaeth. Mae gwaith Karen Mirza a Brad Butler yn cwestiynu’r hyn a olygwn wrth sôn am y syniadau hyn o gydweithio a chyfranogi. Mae eu gwaith yn cynnwys ffilmiau, perfformiadau, curadu a chyhoeddi. Mae gwaith Ragnar Kjartansson hefyd yn cynnwys cydweithio, yn aml gyda cherddorion, mewn perfformiadau a gosodiadau a thrwyddynt mae’n archwilio themâu cyfeillgarwch, emosiynau pobl, cariad a harddwch. Mae’r holl artistiaid yn defnyddio ystod eang o gyfryngau, gweithredoedd a strategaethau i gynnig sylwadau ar yr hyn y mae bod yn fodau dynol yn ei olygu yn y gymdeithas gyfoes.

 

 

 

 

 

Dywedodd Karen MacKinnon, Cyfarwyddwr a Churadur Artes Mundi:

 

“Mae’r dewiswyr ar gyfer Artes Mundi 6 wedi dewis grŵp rhyfeddol o artistiaid o restr helaeth, fyd-eang o enwebiadau. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda hwy, ac i greu arddangosfa fis Hydref nesaf a fydd yn rhoi cyfle i gynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol ymwneud â rhai o artistiaid mwyaf cyffrous y byd heddiw. Mae yma artistiaid o wahanol ddiwylliannau a chenedlaethau yn ogystal ag amrywiaeth anhygoel o arferion artistig. Bydd eu gwaith yn ffurfio arddangosfa a fydd yn heriol, yn chwareus, yn wefreiddiol ac, yn anad dim, yn pwysleisio pwysigrwydd celf sy’n herio ein safbwyntiau ac yn cyfoethogi ein bywydau.

 

“Mae Artes Mundi 6 yn argoeli i fod yn ddigwyddiad diwylliannol pwysig yng Nghaerdydd, yn brofiad bywiog a chyffrous o berfformiadau, cerddoriaeth, gosodiadau sy’n benodol i safle, ffilmiau, darlithoedd a seminarau yn yr Amgueddfa Genedlaethol ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, yn ogystal â gorlifo allan i strydoedd y brifddinas a thu hwnt.”

 

 

 

Meddai Adam Budak, un o’r dewiswyr:

 

“Mae Artes Mundi yn gyfle unigryw i roi cydnabyddiaeth i artistiaid sy’n mynd ati i drawsnewid cymdeithas gyfoes drwy roi ystyriaeth i’r materion pwysig sydd dan sylw yn y byd, a gwneud hynny drwy ddefnyddio iaith sy’n siarad dros yr unigolyn ar lefel goddrychol a thros y gymuned ar lwyfan cymdeithasol. Mae artistiaid Artes Mundi yn canolbwyntio ar safleoedd penodol a diddordebau amserol ac felly yn pontio’r bwlch rhwng celf a bywyd ac yn pwysleisio rôl celf fel rhan annatod o’r cyflwr dynol ac o gyfalaf creadigol y ddynoliaeth.”

 

 

 

Ychwanegodd Sabine Schaschl:

 

“Mae Artes Mundi yn wirioneddol bwysig, nid yn unig oherwydd ei enwebiadau gwych a’i arddangosfa o artistiaid mawr, ond hefyd oherwydd ei fod yn annog yr artistiaid a ddewiswyd i ddatblygu gwaith sy’n benodol i safle ac felly i bontio eu harferion gwaith ag amgylchedd a fframwaith cymdeithasol a diwylliannol penodol Caerdydd.”

 

 

 

Bydd arddangosfa fawr o waith artistiaid y rhestr fer yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yng Nghaerdydd a bydd yr arddangosfa hon yn tanlinellu cwmpas Gwobr Artes Mundi. Bydd yr arddangosfa yn para 17 wythnos, sef o 25 Hydref 2014 hyd at Chwefror 2015, a bydd yn meddiannu bron i 800 metr sgwâr o orielau cyfoes yn yr Amgueddfa ac yn ymestyn i Chapter a safleoedd eraill yng nghanol y ddinas a ledled Cymru.

 

 

 

Yn ogystal â 6ed Gwobr ac Arddangosfa Artes Mundi, bydd rhaglen estynedig o arddangosfeydd a digwyddiadau hefyd yn cynnwys cydweithredu rhwng Artes Mundi a Mostyn, gan arwain yn 2014 at arddangosfa bwysig gan Adam Broomberg ac Oliver Chanerin ym Mostyn yn Llandudno.