Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad mawr o waith John Piper

Mae cyfres o weithiau gan John Piper – yr artist neo-ramantaidd o ganol yr 20fed ganrif oedd â gweledigaeth unigryw o Gymru – wedi cael eu caffael ar gyfer y casgliad cenedlaethol, a hynny am bris hael. Prynwyd y gweithiau gan gasglwr preifat sydd â chysylltiad â Chymru diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri (£472,900), Ymddiriedolaeth Derek Williams (£350,000) a’r Gronfa Gelf (£80,000).

 

Bydd cyfran helaeth o’r casgliad, yn cynnwys naw gwaith arall a dderbyniwyd gan Amgueddfa Cymru fel rhodd, yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Sadwrn, 22 Chwefror 2014 fel rhan o arddangosfa newydd yn dathlu tirlun, llên a gorffennol Celtaidd Cymru. Yr ysbrydoliaeth i Ymweliad â Chymru: Barddoniaeth, Rhamantiaeth a Myth Byd Celf yw cerdd y bardd o America, Allen Ginsberg, a gyfansoddwyd tra ar ymweliad â’r Mynydd Du ym 1967. Mae’r arddangosfa yn plethu gweithiau o gasgliad yr Amgueddfa sy’n edrych ar Ramantiaeth gyfoes a modern ac yn cynnwys gwaith artistiaid fel David Jones, Richard Long, Graham Sutherland, Clare Woods a John Piper wrth gwrs, un o artistiaid mwyaf amryddawn Prydain yr 20fed ganrif.

 

Cyfraniad Piper i’r arddangosfa yw cyfres o olygfeydd gwych o Eryri a brynwyd yn ddiweddar am £974,000. Bu Eryri yn ffynhonnell gyfoethog o ysbrydoliaeth i Piper o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, a bu’n rhentu dau fwthyn yn y cyffiniau yn ystod y cyfnod. O’r ddau fwthyn hwn fe deithiau ar hyd y mynyddoedd yn cofnodi eu ffurfiau cymhleth, lled haniaethol a chyfoeth eu lliwiau.

 

Dangoswyd y gweithiau gan Piper yn yr Amgueddfa am y tro cyntaf yn 2012, pan oeddent mewn dwylo preifat, cyn iddynt deithio i Oriel y Parc yn Sir Benfro ac Oriel Gelf Whitworth ym Manceinion. Gwelwyd yr arddangosfa gan 67,000 o bobl ar draws y tair amgueddfa.

 

Yng ngeiriau David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

“Roedd llwyddiant yr arddangosfa o weithiau John Piper yn 2012 yn brawf o boblogrwydd yr artist ymhlith pobl Cymru, a pa mor bwysig yw hi felly i ychwanegu mwy o’i weithiau at y casgliad cenedlaethol.

 

“Dyma ni’n llwyddo i gyflawni hyn diolch i gyfraniadau hael Cronfa Treftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf. Gan fod gwerth y gweithiau oddeutu £1m, ni allai’r Amgueddfa ystyried eu prynu yn annibynnol.

 

“Diolch hefyd i’r tîm yn Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston am eu cefnogaeth barhaus i’r gwaith o arddangos y casgliadau cyfoes yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.”

 

Wrth drafod dyfarnu’n grant, meddai Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

 

“Mae hwn yn gaffaeliad cyffrous iawn i Amgueddfa Cymru ac rydym wrth ein bodd yn cael cyfle i’w gefnogi. Mae cysylltiad cryf rhwng Cymru a’r artist poblogaidd hwn a’i weithiau, a’r gweithiau a brynwyd yn esiampl bwysig o ddehongli ac adlewyrchu y tirlun o’n hamgylch. Caiff prydferthwch un o’n trysorau cenedlaethol ei amlygu ym mhortreadau John Piper o Eryri. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn cael eu harddangos ar draws Cymru a’u defnyddio mewn ffyrdd newydd a chyffrous fel y gall pobl ddysgu mwy am dreftadaeth.”

 

Mae Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi mwynhau perthynas unigryw ag Amgueddfa Cymru ers dros 20 mlynedd, ac ychwanegodd yr Is-gadeirydd, John Thomas-Ferrand:

 

"Roeddem yn bendant ein cefnogaeth i’r caffaeliad hwn gan fod 24 o weithiau John Piper yn greiddiol i gasgliad gwreiddiol Derek Williams, gan cynnwys Adfail Tŷ a Capel Curig.

 

“Roedd Derek a’r Ymddiriedolwyr yn edmygu’r artist yn fawr ac rydym wrth ein bodd yn gallu cynorthwyo Amgueddfa Cymru i ehangu ei chasgliad yn y fath fodd, yn enwedig gan fod cysylltiad mor gryf rhwng yr artist â Chymru."

 

Meddai Stephen Deuchar, cyfarwyddwr y Gronfa Gelf:

 

“Fel canolfan allweddol i waith John Piper, Amgueddfa Cymru yw’r cartref perffaith i gasgliad o weithiau sy’n datgelu gweledigaeth yr artist o Gymru – gweledigaeth mor amrywiol a llawn bywiogrwydd. Rydym yn hapus iawn i fedru cynorthwyo’r amgueddfa i gaffael y casgliad hwn o bwys cenedlaethol.”

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.  

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.