Datganiadau i'r Wasg

Campwaith Constable o Eglwys Gadeiriol Caersallog yn cyrraedd Caerdydd

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn agor taith campwaith celf Prydeinig

Bydd un o gampweithiau celf Brydeinig, Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 gan John Constable yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 7 Mawrth a 7 Medi 2014 fel rhan o daith i orielau ac amgueddfeydd ym mhob cwr o’r DU.

Prynwyd Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 ar gyfer pobl Prydain diolch i gymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Sefydliad Manton, y Gronfa Gelf ac Aelodau Tate.

O gael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd y gwaith yn ategu casgliadau celf presennol Cymru sy’n cynnwys esiamplau gwych o dirluniau gan rai o’n artistiaid enwocaf, o ddyddiau’r Tuduriaid hyd heddiw. Dangosir gwaith o eiddo Constable o gasgliadau Amgueddfa Cymru ar y cyd ag ef, Bwthyn mewn Cae Ŷd,yn ogystal â gweithiau gan Turner, Wilson a Van Gogh o’r casgliad cenedlaethol.

Ategir yr arddangosfa yng Nghaerdydd gan gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau addysg, ac mae’n rhan o broject partneriaeth pum mlynedd rhwng pum sefydliad – Aspire – gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri a’r Gronfa Gelf. Bydd y fenter yn galluogi’r gwaith i gael ei arddangos ‘bron yn ddi-baid’ ar draws y DU.

Yn Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 edrychwn ar draws Afon Nadder tuag Eglwys Gadeiriol Caersallog dan gwmwl gydag enfys ddisglair uwch ei phen. Dadansoddwyd yr olygfa fel trosiad o’r pwysau gwleidyddol ar Eglwys Loegr yn ogystal â phoen meddwl Constable wrth alaru am ei wraig. Cafodd y gwaith ei arddangos am y tro cyntaf yn Arddangosfa Haf yr Academi Frenhinol ym 1831. Yn ddiweddarach cafodd ei arddangos mewn arddangosfa ranbarthol yn Birmingham, a hynny ar gais Constable, oedd am i gymaint o bobl â phosibl weld y gwaith.

Mae’r paentiad wedi cael ei arddangos yn yr Oriel Genedlaethol ar fenthyciad hirdymor ers 1983, cyn cael ei ddangos yn ddiweddar yn ystafell Constable yn Tate Britain cyn symud i Gaerdydd ym Mawrth 2014.

Mae John Constable yn enwog am ei dirluniau, gyda nifer yn dangos tirwedd sir ei fagwraeth, Suffolk. Cynhyrchai nifer o frasluniau awyr agored gan ddefnyddio’r rhain fel sail i’w baentiadau arddangosfa mawr, gâi eu cynhyrchu yn ei stiwdio. Caiff ei waith ei ystyried heddiw ymhlith campweithiau celf tirluniau Prydain, ond roedd ei dechnegau arloesol newydd yn destun dadleuol yn ystod ei oes.

Un o gyfres o chwe chynfas o’i gyfres ‘chwe troedfedd’ yw Salisbury Cathedral from the Meadows 1831. Dim ond ei weithiau gorau a beintiau yn y maint hwn, y rhai a ddefnyddiau i greu effaith yn arddangosfeydd gorlawn, cystadleuol yr Academi Frenhinol. Hwn yw’r gwaith mwyaf gweledol ddisglair o’r chwech, ag ynddo’r ystyr dyfnaf a’r un yr ymfalchïai Constable ynddo fwyaf. ‘The Great Salisbury’ oedd enw’r artist arno, ac ysgrifennodd hefyd ‘I am told I got it to look better than anything I have yet done’.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Rydym yn falch o fedru arddangos un o gampweithiau celf Brydeinig yma yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd Salisbury Cathedral from the Meadows 1831 yn berffaith i ategu ein casgliad celf hanesyddol tra’i fod yma yng Nghaerdydd.

"Braint yw bod yn rhan o fenter arloesol Aspire, sy’n galluogi cynulleidfaoedd ar draws y DU i weld y gwaith. I gefnogi’r arddangosiad yma trefnir rhaglen addysg fydd yn annog cynulleidfaoedd i ddysgu mwy am y paentiad ac am waith John Constable.

“Rwy’n gobeithio bydd ein hymwelwyr ni yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle cyntaf hwn i gymryd golwg fanylach ar y gwaith ar ddechrau ei daith o amgylch y DU.”