Datganiadau i'r Wasg

Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant - cyhoeddi adroddiad pwysig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Ymateb Amgueddfa Cymru i adroddiad ‘Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant’ Llywodraeth Cymru

“Mae Cymru bellach o ddifrif am bolisi celfyddydol,” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, mewn ymateb i lansiad adroddiad newydd sy’n edrych ar sut y gall y celfyddydau, diwylliant a safleoedd hanesyddol wella cyrhaeddiad a sgiliau, adfywiad a rhoi hwb i gynhwysiant cymdeithasol.

Comisiynwyd yr adroddiad gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths i edrych ar sut y gall mudiadau a chyrff diwylliannol a threftadaeth weithio gyda’i gilydd i helpu i drechu tlodi. Fe’i cynhyrchwyd gan y Farwnes Kay Andrew OBE a caiff ei lansio heddiw (Dydd Iau, 13 Mawrth) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae hefyd yn amlinellu sut y gall sefydliadau ddatblygu cysylltiadau cryfach â chynlluniau trechu tlodi fel rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru.

Mae’r argymhellion am weld datblygu’r hyn sydd eisoes yn gweithio’n dda ac yn cynnwys mesurau a fydd:

  • yn ehangu cyfleoedd ac osgoi allgau cymdeithasol trwy chwalu’r rhwystrau ffisegol a seicolegol i’n sefydliadau, fel costau cludiant;
  • cynyddu ymgysylltu yn y gymuned, i wreiddio diwylliant mewn cymunedau a chynyddu effaith rhaglenni maes;
  • neilltuo adnoddau a hyfforddiant i helpu mudiadau diwylliannol sy’n helpu i gau’r bwlch cyrhaeddiad yn ein hysgolion;
  • sefydlu strategaethau ar lefel Cymru gyfan i annog cyrff diwylliannol i wneud mwy o waith ym maes tlodi.

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - un o saith amgueddfa genedlaethol Cymru - yn barod yn flaengar wrth ymdrin ag agweddau trechu tlodi ac yn arwain ar nifer o brosiectau cymunedol llwyddiannus. Un enghraifft yw’r gwaith gyda Dechrau’n Deg, Dechrau Da a Thîm Iaith Cynnar a Chwarae Cyngor Dinas a Sir Abertawe, i gynnig sesiynau addysg ffurfiol a gweithgareddau mwy anffurfiol yn y gymuned.

Wrth siarad am lansiad yr adroddiad newydd, dywedodd Steph Mastoris, Pennaeth Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

“Mae ein gwaith yn y maes yma wedi bod yn datblygu’n gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n perthynas ni gyda grwpiau cymunedol wedi cryfhau, sydd wedi arwain at gyfleoedd i deuluoedd a phlant o rai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig i ymgysylltu â hanes, treftadaeth a diwylliant yn eu hamgueddfa leol. Mae’r canlyniadau wedi bod yn wych, gyda llawer o adborth positif sydd wedi ein hysgogi i ailadrodd nifer o’r mentrau hyn.

“Dyma Amgueddfa Cymru hefyd yn llwyfannu seminar ym mis Hydref 2013 ar gyfer pobl o bob cwr o’r DU, i drafod rôl diwylliant wrth weddnewid bywydau plant a phobl ifanc. Caiff crynodeb o’r seminar ei lansio ar ffurf adroddiad ar 2 Ebrill dan y teitl Cultural Participation for Children and Young People Experiencing Poverty. Mae’r adroddiad yn cyflwyno argymhellion i sefydliadau diwylliannol ar sut i ymgysylltu’n ehangach gyda phlant a phobl ifanc - drwy eu cynnwys ar baneli sy’n gwneud penderfyniadau er enghraifft - a’r angen i sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ddatblygu eu sgiliau gwrando fel eu bod yn medru adnabod ac ymateb i leisiau a barn plant a phobl ifanc yn well.”

Dyma David Anderson yn cloi drwy ddweud:

“Ni all y sector diwylliannol ddileu tlodi ar ei ben ei hun. Yr hyn y gall wneud yw codi uchelgais pobl ifanc a gweddnewid eu bywydau hyd yn oed. Mae gan bob unigolyn hawliau a thrwy weithredu’n strategol a gweithio ar y cyd, gallwn ni roi cyfle i bawb yng Nghymru fwynhau eu diwylliant a’u treftadaeth eu hunain.”

DIWEDD