Datganiadau i'r Wasg

Taliadau Premiwm a Chynllun Diswyddo

Ym mis Mai 2013, wrth gyhoeddi ei strwythur newydd, dywedodd Amgueddfa Cymru y byddai’n rhaid adolygu Taliadau Premiwm. Dyma un o gyfres o gamau gweithredu gan y sefydliad er mwyn sicrhau £2.25 miliwn o arbedion angenrheidiol (yn ogystal â cheisio cynyddu incwm arall o £0.25m). 

Taliadau ychwanegol i’r gyflog sylfaenol yw Taliadau Premiwm. Cânt eu talu i staff sydd dan gontract i weithio ar sail rota sy’n cynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Ar hyn o bryd, mae tua hanner staff Amgueddfa Cymru yn cael eu talu £54.24 y dydd (yn ychwanegol i’w cyflog sylfaenol) am weithio ar ddydd Sul a gŵyl y banc, a £30.06 y dydd (yn ychwanegol i’w cyflog sylfaenol) am weithio ar ddydd Sadwrn.

Oherwydd lleihad yn y gyllideb, ni all cynllun Taliadau Premiwm Amgueddfa Cymru barhau yn ei ffurf bresennol. Felly, mae’r sefydliad yn ymgynghori â’i staff a’r undebau llafur ynghylch gwahanol opsiynau.

Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn adolygu ei Chynllun Diswyddo yn rhan o’r newidiadau.

Nid oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi’u cynllunio o ganlyniad i’r ddau ymgynghoriad hyn.

Meddai llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru:

“Fel y mwyafrif o gyrff cyhoeddus eraill, ni all Amgueddfa Cymru osgoi heriau’r hinsawdd economaidd sydd ohoni. Nid yw’r cynllun Taliadau Premiwm ar ei ffurf bresennol bellach yn fforddiadwy.

 

“Nid ydym yn cynnig cael gwared ar Daliadau Premiwm yn llwyr. Serch hynny, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd er mwyn sicrhau ein bod yn aros o fewn ein cyllideb, sydd wedi gostwng 10% mewn termau real yn ddiweddar a disgwylir toriadau pellach dros y ddwy flynedd nesaf.

 

“Rydym wedi cychwyn cyfnod ymgynghori 45 diwrnod gyda’r staff a’r undebau llafur cydnabyddedig er mwyn archwilio dyfodol y taliadau hyn yn llawn.

 

“Nid oes unrhyw ddiswyddiadau gorfodol wedi’u cynllunio o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwn ac rydym yn gobeithio lleihau’r effaith ar y staff trwy gynyddu cyflog sylfaenol y staff sydd ar y graddau cyflog isaf. Rydym yn gweithio ar sicrhau y bydd pob aelod o staff yn derbyn y ‘cyflog byw’ neu fwy yn gyflog sylfaenol.

 

“Cynhelir ymgynghoriad arall ar wahân ynghylch dyfodol Cynllun Diswyddo Amgueddfa Cymru. Bydd lleihau cost y cynllun yn helpu Amgueddfa Cymru i barhau i ddarparu gwasanaethau i bobl Cymru a chyflawni ein blaenoriaethau ar adeg o gyfyngu cyllidebau.

 

“Gan ddibynnu ar ganlyniadau’r ddau ymgynghoriad, mae Amgueddfa Cymru yn gobeithio rhoi’r newidiadau ar waith erbyn mis Ionawr 2015.”