Datganiadau i'r Wasg

Penodi Trysorydd ac Ymddiriedolwyr newydd Amgueddfa Cymru

Mae John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ac Elisabeth Elias, sef Llywydd Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi enwau Ymddiriedolwr a Darpar Drysorydd newydd, ynghyd â dau Ymddiriedolwr arall a fydd yn ymuno â Bwrdd yr Amgueddfa.

Mae Mr Laurence Pavelin wedi’i benodi’n Ddarpar Drysorydd i’r Amgueddfa. Bydd yn gwasanaethu fel Ymddiriedolwr am bedair blynedd o 1 Mehefin 2014. Yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd yr Ymddiriedolwyr bydd yn dechrau fel Trysorydd ar 1 Rhagfyr 2014.

Mae Laurie Pavelin yn Gymrawd o’r Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr. Mae wedi bod yn Gadeirydd annibynnol ar Bwyllgor Archwilio Amgueddfa Cymru ers chwe blynedd bellach. Laurie oedd Prif Gyfrifydd Llywodraeth Cymru rhwng 1990 a 2005 a derbyniodd CBE yn 2000 am wasanaethau i’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Dr Carol Bell wedi’i phenodi’n Ymddiriedolwr gan y Gweinidog a bydd yn dechrau yn y swydd pedair blynedd ar 1 Mehefin 2014. Yn dilyn gyrfa lwyddiannus o dros 20 mlynedd yn y byd olew a nwy a bancio buddsoddi dechreuodd yrfa luosog sydd bellach yn cynnwys archaeoleg academaidd, swyddi cyfarwyddwyr anweithredol cwmnïau cyhoeddus ac ymddiriedolaethau elusennau sydd ynghlwm wrth y sector addysg, diwylliant ac ynni adnewyddadwy. Daeth yn aelod o’r Awdurdod sy’n llywodraethu S4C, sef y darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg ei iaith, yn 2012.

Mae’n teithio i bob ban byd yn sgil y ffaith ei bod yn aelod o fyrddau tri chwmni ynni ac mae’n hoff iawn o ymweld ag amgueddfeydd ac orielau yn ystod ei theithiau. Golyga hyn ei bod yn gyfarwydd iawn â’r casgliadau celf, archaeoleg ac ethnograffeg sy’n cael eu cadw gan rai o amgueddfeydd amlyca’r byd.  

Mae’r Farwnes Kay Andrews OBE hefyd wedi cael ei phenodi’n Ymddiriedolwr gan yr Amgueddfa a bydd yn dechrau’r swydd pedair blynedd ar 1 Rhagfyr 2014. Dechreuodd ei gyrfa fel Clerc yn Nhŷ’r Cyffredin, gan arbenigo mewn polisi addysg a pholisi gwyddoniaeth, a chafodd ei phenodi’n gynghorydd polisi i Arweinydd yr Wrthblaid ar y pryd, Yr Arglwydd Kinnock o Bewellty, ym 1985. Roedd ganddi gyfrifoldeb penodol am bolisi addysg, gwyddoniaeth ac iechyd.   

Ym 1992 dechreuodd yn ei swydd fel Cyfarwyddwr cyntaf Education Extra, sef elusen ar draws y DU sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod gweithgareddau dysgu y tu allan i’r ysgol o fewn cyrraedd pob plentyn. Llwyddodd i sicrhau, ymysg sawl peth arall, fod partneriaethau arloesol yn cael eu sefydlu ag amgueddfeydd. Derbyniodd OBE am wasanaethau i addysg ym 1998 a daeth yn Arglwydd am Oes yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 2000. Hi oedd Cadeirydd benywaidd cyntaf English Heritage rhwng 2009 a 2013.

Cafodd wahoddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2013 i gynnal adolygiad o ddiwylliant a threftadaeth yng Nghymru. Diben yr adolygiad hwn oedd gweld sut y byddai modd i’r ddau faes hyn, gyda’i gilydd, gyflawni rhagor o fanteision i bobl o fewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad ei lansio ar 13 Mawrth.  

Mae pedwar ymddiriedolwr presennol hefyd wedi’u hailbenodi sef Mr David Beresford Vokes, Yr Athro Tony George Atkins, Dr Keshav Singhal a Ms Victoria Mary Provis (*Ceir rhagor o wybodaeth yn y Nodiadau i Olygyddion). Bydd y pedwar hyn yn Ymddiriedolwyr am bedair blynedd arall o 1 Ebrill 2014.

Dywedodd John Griffiths: “Rwy’n croesawu’r penodiadau newydd hyn gan y byddant yn cyfrannu sgiliau allweddol i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr. Rwy’ hefyd yn falch iawn y bydd y pedwar Ymddiriedolwr presennol yn parhau’n aelodau o Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Amgueddfa am bedair blynedd arall. Mae pob un ohonynt wedi gwneud cyfraniad gwych at holl ystod gweithgareddau’r Amgueddfa.

Dywedodd Elisabeth Elias: “Mae’n bleser gen i groesawu Mr Laurence Pavelin, Dr Carol Bell a’r Farwnes Kay Andrews yn Ymddiriedolwyr Amgueddfa Cymru. Maent oll yn unigolion uchel eu parch o fewn eu meysydd arbenigol. Bydd yr Ymddiriedolwyr eraill ynghyd ag Amgueddfa Cymru yn elwa’n fawr ar eu profiad a’u harbenigedd. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i weddill aelodau’r Bwrdd am eu hymrwymiad parhaus, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u hailbenodi eleni.”

Nid yw Aelodau’r Bwrdd yn derbyn tâl ond caiff eu costau teithio a’u costau cynhaliaeth rhesymol eu had-dalu. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn ac mae disgwyl i’r Ymddiriedolwyr fod yn aelodau o is-bwyllgorau yn ogystal.  

Mae’r holl unigolion wedi’u penodi gan y Gweinidog a Llywydd Amgueddfa Cymru yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.