Datganiadau i'r Wasg

Noson gyda’r Minions yn denu’r torfeydd

Gawsoch chi awydd erioed i grwydro’r amgueddfa ar ôl diffodd y goleuadau a chloi’r drysau? Dyma’ch cyfle!

O 6pm ar ddydd Mercher 16 Mai, bydd yr Amgueddfa yn llawn bwrlwm gwyddoniaeth gyda gweithgareddau celf a chrefft, arddangosiadau gwyddoniaeth gwyllt, llwybr i’r teulu a ffilm 3D (o 7.30pm).

Gall ymwelwyr grwydro’r orielau i ganfod ffeithiau di-ri am y Lleuad, creu gogyls a phypedau bysedd wedi’u hysbrydoli gan Minions Despicable Me, neu dynnu llun o’u hunain ar roced.

Ers lansio yn 2009 mae Noson yn yr Amgueddfa wedi dod yn boblogaidd iawn gyda theuluoedd.

“Mae’r ymateb i’r digwyddiad wedi bod yn wych hyd yn hyn ac mae nifer wedi archebu lle yn barod,” meddai’r Cynorthwy-ydd Digwyddiadau, Andrew Kuhne.

“Mae’n gyfle i fod yn greadigol gyda’r arddangosfeydd a’r gwrthrychau ac yn gyfle i ymwelwyr weld yr Amgueddfa mewn goleuni newydd.”

“Fel amgueddfa sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant a blaengaredd Cymru, mae’n cynnig profiad gwahanol i ymwelwyr – digwyddiad y gall y teulu cyfan ei fwynhau.”

Mae’r gweithgareddau yn dechrau am 6pm gyda mynediad yn £3.50 y pen (am ddim i blant dan 3 oed). Rhaid archebu ymlaen llaw, drwy ffonio (029) 2057 3600.