Datganiadau i'r Wasg

Datganiad i’r wasg ynghylch gweithredu diwydiannol ar 18 Mehefin 2014

“Bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio rhyw gymaint ar safleoedd Amgueddfa Cymru rhwng 12pm a 2pm heddiw (dydd Mercher, 18 Mehefin 2014). Fodd bynnag, bydd pedair o’r saith safle’n aros ar agor yn ystod y ddwy awr honno ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau parhad ein gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gydol y dydd. Rydym yn argymell i’n hymwelwyr fynd i’r wefan am ragor o wybodaeth cyn ymweld ag unrhyw un o’r safleoedd.

“Mae Undeb PCS (Public and Commercial Services) wedi penderfynu cynnal streic yn ystod cyfnod o drafod parhaus ynghylch dyfodol lwfansau ychwanegol a delir i staff am weithio dros benwythnosau a gwyliau banc (Taliadau Premiwm). Wrth reswm, mae amseru’r gweithredu’n siomedig, gan ein bod yn parhau i ystyried yr ymatebion a ddaeth i law yn ystod y cyfnod ymgynghori 45 diwrnod swyddogol ac yn dal i drafod opsiynau â’n hundebau cydnabyddedig a staff. Dyma bwysleisio na wnaed unrhyw benderfyniadau hyd yn hyn.

“Er gwaethaf 15% o leihad (mewn termau real) i’n cyllideb, ymhlith ein cynigion mae cynyddu cyflog sylfaenol y staff ar y cyflogau isaf, cyflwyno Cyflog Byw a dim diswyddiadau gorfodol ar hyn o bryd.

“Gobeithiwn ddod i gytundeb er mwyn ceisio osgoi unrhyw effeithiau pellach ar ein hymwelwyr a’n gwasanaethau.”