Datganiadau i'r Wasg

Y Ceffyl Rhyfel yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Darganfod darn o arfwisg ceffyl yng Nghae’r Priordy, Caerllion yn 2010 oedd yr ysbrydoliaeth i arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yn edrych ar rôl y ceffyl ym Myddin Rhufain. Mae Equus – Y Ceffyl Rhyfel yn agor yng Nghaerllion ar dydd Gwener 27 Mehefin yn dangos sut y byddai Byddin Rhufain yn defnyddio ceffylau ac yn cymharu hyn â rôl ceffylau yn y Rhyfel Byd Cyntaf bron i 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn rhan o’r arddangosfa bydd replica pen ceffyl ag arno ail-gread arbennig o arfwisg pen, chamfron, a’r cyfan ar agor i’r cyhoedd rhwng 27 June a 30 Ionawr 2015.

Mae’r arddangosiad newydd yn rhan o raglen Amgueddfa Cymru i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cefnogir rhaglen Cymru’n Cofio 1914–1918 a’i gweithgareddau drwy haelioni Llywodraeth Cymru (CyMAL), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y lluoedd Arfog a rhoddwyr eraill.

 

Defnyddiodd Byddin Prydain dros filiwn o geffylau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – rhai’n cario marchogion, a rhai’n tynnu nwyddau a gynnau. Er bod y math o arfau y tynnai’r ceffylau wedi newid, doedd fawr o newid rhwng eu defnydd gan y Rhufeiniaid bron i 2,000 o flynyddoedd ynghynt. Roedd marchoglu gan y Rhufeiniad ac un gatrawd wedi’i lleoli gyda’r lleng yng Nghaerllion. Byddai marchogion dawnus yn cael eu recriwtio o bob cwr o Ymerodraeth Rhufain. Yn ogystal â gwisgo arfwisg ychydig yn wahanol, bydden nhw hefyd yn defnyddio arfau gwahanol i’r milwyr traed. Byddai’r ceffylau hefyd yn gwisgo arfwisg i warchod y corff a’r pen rhag niwed.

Yn ystod gwaith cloddio ger Amffitheatr Caerllion yn 2010 canfuwyd chamfron, un o’r darnau arfwisg a ddefnyddiwyd i warchod wyneb ceffyl. Y cwbl sy’n weddill bron yw darnau o’r arfwisg, pinnau tebyg i drawing pins a ffigwr efydd, a bydd y cyfan i’w weld yn yr arddangosiad. Ar ôl misoedd lawer o waith cadwraeth ac ail-greu mae replica wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer arddangosfa Equus. Prin yw’r chamfronau sydd wedi’u canfod ym Mhrydain, ac mae’n anarferol iawn taw’r darnau metel sydd wedi goroesi, yn hytrach na’r darnau lledr.

Meddai Dr Mark Lewis; “Darganfuwyd y darn o arfwisg pen ceffyl yng Nghae’r Priordy, Caerllion ychydig flynyddoedd yn ôl, ac wedi misoedd o waith cadwraeth gofalus mae’n braf cael arddangos chamfron replica llawn i ddangos sut y byddai’r darnau yn ymddangos gyda’i gilydd ac ar ben un o geffylau rhyfel y Rhufeiniaid.”

Dywedodd Dai Price, Rheolwr, Amgueddfa Lleng Rufeinig, “Dyma arddangosfa gyntaf rhaglen Amgueddfa Cymru i goffau dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bydd ein harddangosfa Equus yn esbonio sut y byddai Byddin Rhufain yn defnyddio ceffylau ac yn cymharu hyn â rôl ceffylau yn y Rhyfel Byd Cyntaf bron i 2,000 o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae nifer fawr o geffylau wedi gwasanaethu a marw mewn rhyfel dros y blynyddoedd ac mae’n bwysig felly edrych ar eu cyfraniad.

“Rydyn ni wrth ein bodd hefyd yn medru cynnwys gwaith celf sialc gan artist ifanc talentog o Gaerllion, Izzy Baker-Westhead felly mae hefyd yn gyfle gwych i gefnogi talent lleol!”

Meddai’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths; “Mae anifeiliaid wedi chwarae rôl bwysig mewn rhyfel dros y canrifoedd, a’r ceffyl yw’r mwyaf cyffredin o’r rhain. Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf gyda’r mwyaf gwaedlyd erioed a collodd miliynau o filwyr a phobl gyffredin eu bywydau. Rhaid cofio hefyd am gyfraniad ceffylau yn tynnu gynnau trwm neu wagenni nwyddau neu yn cario marchogion, a bu farw miliynau o’r rhain hefyd. Mae’r arddangosfa hon yn rhan o raglen Cymru’n Cofio 1914-1918 a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Rwy’n gobeithio y bydd nifer ohonoch yn manteisio ar y cyfle i ddysgu mwy am y ceffyl rhyfel, o oes y Rhufeiniaid tan y rhyfel erchyll y byddwn yn ei gofio dros y pedair mlynedd nesaf.”