Datganiadau i'r Wasg

‘Dyn ni ‘na eto? Dathlu hwyl carafanio mewn arddangosfa newydd dros yr haf

Dros yr haf byddwn ni’n annog ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i hel atgofion am wyliau’r gorffennol wrth fwynhau arddangosfa newydd sy’n adrodd hanes dyddiau cynnar carafanio yng Nghymru.

Canolbwynt yr arddangosfa fydd carafán o 1950 a byddwn hefyd yn edrych ar wahanol agweddau o wyliau carafanio – o baratoi picnic yn y gegin fach a’r seddi all droi’n welyau, ac o’r gwersylloedd gwyliau i’r gweithgareddau dan do pan oedd hi’n glawio.

Y teulu Dodds o Gaerdydd oedd perchnogion y garafán. Dyma nhw’n comisiynu’r garafán gan y cwmni lleol Louis Blow and Co. am £600 – mwy na phris tŷ teras ar y pryd. 

Gwneuthurwyr celfi oedd L.G. Blow a gellir gweld y dylanwad hwn yng ngwaith pren y garafán. Cynhyrchwyd popeth yn arbennig ar gyfer y Dodds. Cynlluniwyd un silff yn arbennig i ddal cadair plentyn. 

Taflodd y teulu eu hunain i fyd carafanio.

Bob blwyddyn am 10 mlynedd dyma nhw’n ymweld â phob cwr o arfordir de Cymru, o Benarth i Sir Benfro. 

Yn y pen draw, gosodwyd y garafán yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac yno y bu’n sefyll am bron i 50 mlynedd. Byddai’n cael ei defnyddio o hyd, gan amryw aelodau’r teulu, tan 2009. Dyma pryd y rhoddwyd y garafán i Amgueddfa Cymru gan Michael Dodds, mab hynaf y perchennog gwreiddiol. 

Dyma’r teulu hefyd yn rhoi ffilm cartref du a gwyn yn eu dangos yn mwynhau gwyliau ar hyd a lled de Cymru, gan gynnwys Oxwich a Bosherston, Sir Benfro. 

Mae’r ffilm yn gofnod gwych o hafau a fu, gyda’r plant yn crwydro a chwarae’n rhydd heb fod oedolion yn cadw llygad barcud – esiampl dda o hyn yw’r fideo o gynnau tân a choginio selsig ar frigyn. 

Bachgen 14 oed yw Michael Dodds yn y ffilm. Mae yntau bellach yn ei saithdegau ac rydym wedi ei ffilmio yn hel atgofion am yr hwyl a gafodd yn gwersylla a charafanio dros y blynyddoedd. 

Wrth siarad am yr arddangosfa, dywedodd yr Uwch Guradur Diwydiant Modern, Ian Smith: “Mae’r garafán yn boblogaidd iawn gyda’r ymwelwyr. Mae pawb bron yn cofio mynd ar wyliau gwersylla, a’r garafán a’r ffilm ddu a gwyn yn gyfle i rannu yn hapusrwydd y Dodds. 

“Gwelwyd newid mawr yn ein bywyd bob dydd ers 1950 pan adeiladwyd y fan, ond mae carafanio a gwersylla yn dal yn debyg iawn. Mae’n apelio at y teulu cyfan, yn achosi i’r rhieni hel atgofion a’r plant i ryfeddu!” 

Bydd ’Dyn ni ’na eto? – Gwyliau Teulu mewn Carafán i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau tan 28 Medi. 

Rhwng 12.30pm a 3.30pm ar 23 a 25 Awst gall ymwelwyr droi eu llaw at weithgaredd arbennig hefyd. Bydd, cyfle i greu Carafanau Bocs Matsis mewn gweithgaredd ymarferol a throi bocs matsis syml yn garafán retro ar olwynion botwm! 

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa, am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn yr Amgueddfa ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk neu ffoniwch (029) 2057 3600.