Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa yn rhoi artist gorau Cymru yn ôl ar y llwyfan rhyngwladol

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn llwyfannu arddangosfa yn dathlu bywyd a gwaith ‘tad paentio tirluniau Prydain’ Richard Wilson

 

Wrth glywed enwau Turner, Constable a Gainsborough rydym yn meddwl yn syth am dirluniau. Ond sbardunwyd y tri gan waith y paentiwr o Gymru Richard Wilson (1714-1782), a gaiff ei gyfri gan nifer yn dad paentio tirluniau Prydain. I ddathlu 300 mlynedd ers genedigaeth Wilson, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn llwyfannu ‘Richard Wilson a Gweddnewidiad Paentio Tirluniau Ewropeaidd’ rhwng 5 Gorffennaf a a 29 Hydref 2014.

Trefnwyd yr arddangosfa ar y cyd â’r Yale Center for British Art yn New Haven, Conneticut, UDA a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art. Fel yr arddangosfa fawr gyntaf o waith Wilson mewn 30 mlynedd bydd yn dangos rhychwant dylanwad Wilson ledled Ewrop tac yn dangos ei waith mewn cyd-destun rhyngwladol. Mae’r arddangosfa yn canolbwyntio ar y saith mlnedd a dreuliodd yn gweithio yn Rhufain yn y 1750au, cyfnod a welodd weddnewid yng nghelf Wilson a chelf tirluniau Ewrop, cyn edrych ar ei dirluniau a’i weithiau hanesyddol mawr yn y 1760au.

Curaduron yr arddangosfa yw Robin Simon, Golygydd y British Art Journal, a Martin Postle, Dirprwy Gyfarwyddwr Astudiaethau yn The Paul Mellon Centre for Studies in British Art, Llundain, ar y cyd â Oliver Fairclough, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru a Scott Wilcox, Prif Guradur yr Yale Center for British Art..

Bydd Richard Wilson a Gweddnewidiad Paentio Tirluniau Ewropeaidd yn gyfle i weld nifer o baentiadau a darluniau gorau Wilson. Bydd cyfle hefyd i weld gweithiau allweddol gan y meistri cynnar – Claude Lorrain a Gaspard Dughet – yn ogystal â chyfoedion Wilson – Mengs, Francesco Zuccarelli, Charles Joseph Natoire, Joseph Vernet, Louis Blanchet, a mwy. Hefyd yn yr arddangosfa bydd lluniau gan nifer o ddisgyblion a dilynwyr Wilson gan gynnwys artistiaid llai adnabyddus, fel Robert Crone ac Adolf Friedrich Harper a astudiodd yn yr Eidal gyda Wilson, ac enwogion fel John Constable a J.M.W. Turner.

Ganwyd Richard Wilson ym 1714 yn fab i offeiriad o Benygroes, Sir Drefaldwyn. Dysgodd Richard Wilson ei grefft fel peintiwr portreadau yn Llundain am ddeng mlynedd, cyn codi pac i’r Eidal ym 1750 a phenderfynu canolbwyntio ar dirluniau.

Lledwyd arddull Wilson ar hyd gogledd Ewrop yng ngwaith ei ddisgyblion. Wedi dychwelyd i Lundain, agorodd stiwdio fawr gan adeiladu ar lwyddiant ei dirluniau Eidalaidd drwy gymhwyso egwyddorion cysodi clasurol i olygfeydd o Gymru a Lloegr, fel yn y’r olygfa wych hon o’r Wyddfa o Lyn Nantlle.

Wedi ei lwyddiant ysgubol yn y 1760au, pylu wnaeth ei enwogrwydd. Roedd llai o alw am ei waith a dirywiodd ei iechyd ac erbyn ei farw roedd ei yrfa bron yn angof. Ond ymhen rhai blynyddoedd, adferwyd ei enw da ymhlith y beirniaid ac erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cai ei gydnabod fel un o arloeswyr y maes ym Mhrydain. Bu’r syniadau newydd a gyflwynodd yn greiddiol i ddatblygiad y genre yn ystod y cyfnod rhamantaidd a gyrhaeddodd ei benllanw yng ngwaith J. M. W. Turner a John Constable, dau a edmygai Wilson yn fawr.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Mae’r arddangosfa hon yn dangos y bu i Richard Wilson, un o ffigurau celfyddydol mawr Cymru, gael dylanwad ddofn ar ddatblygiad paentio tirluniau ym Mhrydain, ac yn Ewrop benbaladr, yng nghanol y ddeunawfed ganrif.

“O ystyried elfennau arloesol ei waith a’i reddf ryfeddol, mae’n syndod na fu arddangosfa fawr ryngwladol o’i waith er 1982–83, pan y cydweithiodd yr Yale Center for British Art, Oriel Tate, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar yr arddangosfa arloesol Richard Wilson: The Landscape of Reaction. Braf felly yw ailgynnau’r berthynas hon rhwng Amgueddfa Cymru  a’r Yale Center for British Art ar achlysur y trichanmlwyddiant”

Meddai’r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon John Griffiths: “Rydw i wrth fy modd bod gweithiau Richard Wilson yn cael eu harddangos yma yn yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae’n bleser gweld partneriaeth rhwng ein hamgueddfa genedlaethol a sefydliadau rhyngwladol fel yr Yale Center for British Art a’r Paul Mellon Centre for Studies in British Art, Llundain. Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr o bob cwr o Gymru yn manteisio ar y cyfle i fwynhau’r arddangosfa hon o gelf o safon ryngwladol.

Mae manylion gweithgareddau ategol ar dudalennau ‘Digwyddiadau’ Amgueddfa Cymru, gan gynnwys sgyrsiau awr ginio a taith faes arbennig yn dilyn ôl troed Wilson ar hyd gogledd Cymru i weld y golygfeydd fu’n ysbrydoliaeth iddo http://www.amgueddfacymru.ac.uk/digwyddiadau/?event_id=7232.

Cynhelir teithiau arbennig i grwpiau yn ystod yr arddangosfa pan fydd curadur yr arddangosfa, y Ceidwad Celf Oliver Fairclough yn datgelu mwy am waith Wilson ac yn esbonio sut y dewiswyd y gweithiau a’u casglu.

Cefnogir rhaglen Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o arddangosfeydd a digwyddiadau gan y People’s Postcode Lottery.