Datganiadau i'r Wasg

Cadw llygad barcud ar fyd natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae gwyddonwyr yn arsylwi bob dydd, ond sut mae hyn yn arwain at ddarganfyddiadau newydd? Caiff y cyfan ei esbonio yn Mi Wela i... Natur Mae’r arddangosfa newydd sbon yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf ac yn gyfle i’r teulu cyfan roi cynnig ar arsylwi a chofnodi byd natur.

Ymunwch â’r arbenigwr ar fywyd gwyllt Cymru Dr Rhys Jones a churaduron gwyddorau natur yr Amgueddfa i yn agoriad Mi Wela i... Natur, a gynhyrchwyd gyda chefnogaeth chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithgareddau a chyfle i weld yr arddangosfa (10am – 5pm, dydd Sadwrn 19 Gorffennaf).

Gallwch chi fod yn naturiaethwr o oes Fictoria yn braslunio byd natur neu ddysgu sut mae technoleg fodern yn galluogi gwyddonwyr i greu gwrthrychau 3D. Dysgwch sut y bydd anifeiliaid yn gweld y byd yn wahanol i ni a chraffu ar ddegau o wrthrychau hanes natur dan chwyddwydr.

Mae cwis rhyngweithiol ‘Pa fath o Archwiliwr wyt Ti?’ yn rhan o’r arddangosfa hefyd yn ogystal â chyfle i weld gwyddonwyr wrth eu gwaith yn y labordy ac yn yr awyr agored. Bydd cyfle i ymwelwyr ddarlunio natur drwy ddefnyddio microsgopau, darluniau a gwrthrychau hanes natur.

Mae Katie Mortimer-Jones, Uwch Guradur: Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Morol, Amgueddfa Cymru wedi chware rhan flaenllaw yn y project:

“Pa ffordd well i ddathlu dechrau gwyliau’r haf na mwynhau arddangosfa a gweithgareddau newydd Mi Wela i... Natur? Byddwch chi’n mwynhau mas draw. Mae’n gyfle i ymwelwyr archwilio ac arsylwi natur, o gloÿnnod byw i fwydod a blodau. Gallwch chi wisgo fel gwyddonydd hyd yn oed!”

Arferai Dr Rhys Jones ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gyda’i dad-cu pan yn fachgen, ac mae’n gefnogol iawn hyd heddiw:

“Fe ges i gyfle i weld yr arddangosfa ymlaen llaw, ac roeddwn i wedi cyffroi o deimlo fy hunan yn fachgen bach eto yn ymweld â’r Amgueddfa am y tro cyntaf. Rwy’n cofio dyheu bryd hynny am gael gwisgo cot hir a bod yn wyddonydd am y diwrnod, ac o’r diwedd daeth fy mreuddwyd yn wir! Dwi methu aros i weld cyffro’r ymwelwyr a’u gweld yn mwynhau’r arddangosfa ymarferol hon sydd â chymaint waith meddwl y tu ôl iddi. Mae gwyddoniaeth yn hwyl ac mae’n hollol wych.”

I gyd-fynd â’r arddangosfa mae rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau addysgol gan gynnwys:

  • ·         Teithiau i’r Teulu: Cipolwg o’r Newydd ar Natur 19 – 25 Gorffennaf, 29 Gorffennaf – 1 Awst (11am, 1pm a 3pm)

Dewch am daith dywys o’r arddangosfa Mi Wela i... Natur a chreu eich gwaith celf eich hun yn seiliedig ar y gwych a’r gwachul fydd i’w weld.

  • ·         Gweithdy i’r Teulu: Mi Wela i... Natur 19 Gorffennaf – 1 Awst (11am - 4pm)

Dewch i ddysgu mwy am y gwahanol ffyrdd o edrych ar fyd natur a chreu gwaith celf i fynd adre gyda chi.

  • ·         Helfa Drysor yr Haf i Deuluoedd 19 Gorffennaf – 31 Awst 2014 (10am – 4:45pm)

Dilynwch y llwybr a datrys y cliwiau!

  • ·         Gweithdai i’r Teulu: Dwlu ar Ddaeareg! 2 – 3, 9 – 10, 16 – 17, 23 – 24 a 30 – 31 Awst

Dewch am daith dywys o’r arddangosfa Mi Wela i... Natur a chreu eich gwaith celf eich hun yn seiliedig ar y gwych a’r gwachul fydd i’w weld.

  • ·         Taith Iaith: Mi Wela i... Natur  25 Medi 2014 (i ddysgwyr Cymraeg)

Sut mae gwyddonwyr yn gweld byd natur ac yn ein helpu i ddeall y byd o’n cwmpas gyda Kate Mortimer-Jones a Lucy McCobb

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Cefnogir Ymddiriedolaethau Natur Cymru hefyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Bydd Mi Wela i... Natur ar agor tan 2 Ebrill 2015 ac mae mynediad i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.