Datganiadau i'r Wasg

Agor Fflach Amgueddfa yng Nghaerdydd

I ddathlu cynnal Gŵyl Amgueddfeydd Cymru am y tro cyntaf ac i gyd-fynd â Chynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd mae partneriaeth newydd yn cael ei lansio rhwng Amgueddfa Stori Caerdydd, Amgueddfa Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn creu Fflach Amgueddfa dan arweiniad y cyhoedd.

 

Nod y Fflach Amgueddfa yw annog y cyhoedd i gymryd rhan, a caiff ei datblygu a’i chreu gan aelodau o’r cyhoedd sydd â straeon diddorol i’w hadrodd am ein prifddinas.

 

Sut fydd hyn yn gweithio? Caiff y themâu a’u cynnwys eu pennu yn ystod y gynhadledd ddeuddydd (9 a 10 Hydref) yng Nghanolfan y Mileniwm gyda’r Amgueddfa wedyn ar agor tan ddydd Sul 12 Hydref. Mae croeso i unrhyw un alw draw i’w gweld neu i helpu gyda’r gwaith – bydd cyfle hefyd i arddangos gwrthrych neu stori eich hun.

 

Cynhelir tri gweithdy dros y deufis nesaf fydd yn esbonio i bobl sut i gyfrannu a sut mae Fflach Amgueddfa yn gweithio.

 

Cynhelir y gweithdai yn Amgueddfa Stori Caerdydd ar:

  • ·        ddydd Sadwrn 30 Awst, 11am – 1pm
  • ·        dydd Iau 11 Medi, 6pm – 8pm
  • ·        dydd Sadwrn 27 Medi, 11am – 1pm

 

Caiff y cyfranwyr eu hannog i flogio a thrydar drwy gydol y broses gan ddefnyddio hashnod  #popupmuseum, fel y gall pawb glywed am y datblygiadau diweddaraf a chlywed y straeon diddorol sy’n cael eu rhannu.

 

Wrth drafod y project, dywedodd Heledd Fychan o Amgueddfa Cymru: “Elfen fwyaf cyffrous y Fflach Amgueddfa, a’r hyn sy’n gwneud y project yn unigryw, yw’r ffaith bod popeth yn nwylo’r cyhoedd.

 

“Heb eu cyfraniad, fydd yr Amgueddfa ddim yn bod, felly er mwyn i’r project weithio rhaid i ni gasglu gwrthrychau a straeon. Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cydweithio ag Amgueddfa Stori Caerdydd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac yn edrych ymlaen at weld ffrwyth y fenter.”

 

Meddai Arran Rees o Amgueddfa Stori Caerdydd: “Bydd y Fflach Amgueddfa hon yn rhoi cyfle i bobl leisio’u barn am ein prifddinas, hyd yn oed os ydyn nhw wedi ymweld o’r blaen neu beidio. Bydd yn cynnwys lleisiau brodorion y ddinas a phobl sydd newydd gamu o’r trên am y tro cyntaf, cynrychiolwyr yng nghynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd, a theuluoedd sy’n ymweld â Chanolfan y Mileniwm fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru.

 

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â stori am Gaerdydd i gymryd rhan, drwy fynychu’r gweithdai, cymryd rhan ar-lein neu helpu i adeiladu’r Amgueddfa ei hun ym mis Hydref.”

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Heledd Fychan (029) 2057 3268 heledd.fychan@amgueddfacymru.ac.uk neu Arran Rees (029) 2078 8334 arran.rees2@cardiff.gov.uk

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Cynhelir Gŵyl Amgueddfeydd Cymru 4-12 Hydref i gyd-fynd â Chynhadledd Cymdeithas yr Amgueddfeydd a gynhelir rhwng 9-10 Hydref yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Thema’r Gynhadledd yw ‘Museums Change Lives.’ Am ragor o wybodaeth am y Gynhadledd ewch i http://museumsassociation.org/conference.

 

Trefnir yr Ŵyl gan weithgor sy’n cynnwys yr All-Wales Marketing Team, aelodau o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru (FMAGW), Amgueddfa Cymru a gweithwyr amgueddfa eraill.