Datganiadau i'r Wasg
Cofnod Dyddiadur: Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Dyddiad:
2014-09-11Cyfarfod Agored Bwrdd yr Ymddiriedolwyr
Amgueddfa Cymru
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
10.15am-1pm, Dydd Iau 11 Medi 2014
Gwahoddir aelodau’r cyhoedd sydd â diddordeb yng ngwaith Amgueddfa Cymru i fynychu cyfarfod chwarterol Bwrdd yr Amgueddfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd am 10.15am-1pm ar ddydd Iau 11 Medi 2014.
Mae gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr – corff llywodraethol Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am reoli a gweinyddu cyllid ac eiddo’r Amgueddfeydd – yr awdurdod i benderfynu ar unrhyw fater sy’n ymwneud â materion Amgueddfa Cymru.
I fynychu’r cyfarfod, fydd yn ddwyieithog gyda chyfieithu ar y pryd o’r Gymraeg i Saesneg, cysylltwch â Elaine Cabuts ar ffon: 02920 573204 neu e-bostiwch: rsvp@amgueddfacymru.ac.uk.
Mae Amgueddfa Cymru yn gweinyddu saith amgueddfa genedlaethol ar hyd a lled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae mynediad i safleoedd Amgueddfa Cymru am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
- Diwedd -
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu, Amgueddfa Cymru ar 029 2057 3175 neu e-bostiwch lleucu.cooke@museumwales.ac.uk