Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Rufeinig Cymru yw’r cyntaf yn y byd i dreialu app iBeacons

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion yw’r amgueddfa Rufeinig gyntaf yn y byd i dreialu app newydd iBeacons fydd yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod mwy am y casgliadau ar eu dyfeisiau symudol wrth iddyn nhw grwydro’r safle. Yn dilyn llwyddiant y treialon cyntaf yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, mae Amgueddfa Cymru yn treialu technoleg Diwylliant a Threftadaeth Bluetooth Low Energy (BLE) gydag offer iBeacon Apple, mewn partneriaeth â Chasgliad y Werin Cymru a chwmni Locly (app a phlatfform) yn amgueddfa Caerllion. Cafodd y dechnoleg iBeacons ei lansio yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AM ar ddydd Llun 6 Hydref

 

Technoleg cyfathrebu yw iBeacon sy’n cysylltu â dyfeisiau eraill drwy gyfrwng signal Bluetooth Low Energy (BLE). Mae Apple Inc. yn disgrifio’r system leoli dan-do fel dosbarth newydd o drawsyryddion ynni isel, rhad all hysbysu dyfeisiau iOS 7 gerllaw o’u lleoliad. Gall y dechnoleg gael ei defnyddio gan systemau Android hefyd.

 

Diolch i’r fenter hon, gall ymwelwyr dderbyn gwybodaeth ar eu ffonau a’u llechi yn Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru wrth grwydro’r amgueddfeydd, gan ddysgu mwy am y gwrthrychau a rhyngweithio â nhw.

 

Sylfaen y fenter yw cynnwys digidol wedi’i guradu gan yr amgueddfa, gyda thechnoleg iBeacon yn cael ei ddefnyddio ar blatfform Locly. Mae 11 iBeacon wedi’u gosod drwy Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gyda chynnwys digidol blaenorol yn cael ei ailddefnyddio ar blatfform Casgliad y Werin a Locly i roi profiad amlgyfrwng cyfoethog i’r ymwelydd. Gellir lawrlwytho’r app o siop ar-lein Apple.

 

Mae’r bartneriaeth wedi cwblhau cymal cyntaf y peilot, sef y gwaith o dreialu technoleg iBeacons mewn amgueddfa genedlaethol fyw, achredig.

 

Lansiwyd yr ail gymal yn barod. Caiff ymchwil ei gynnal i elfennau penodol o dreftadaeth ddigidol fel addysg, dehongli a’r defnydd o ddeunydd dwyieithog ac amlieithog. Dim ond y sawl fydd â diddordeb i ddysgu mwy am dechnoleg iBeacon mewn amgueddfeydd gaiff gyfrannu at y cymal hwn.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Wedi cyfnod treialu llwyddiannus yn Amgueddfa Lechi Cymru, mae’n bleser gallu ymestyn y ddarpariaeth iBeacons i un arall o safleoedd Amgueddfa Cymru. Roedd y Rhufeiniaid yn arloeswyr heb eu hail. Mae’r app yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru felly yn parhau â thraddodiad 2000 o flynyddoedd ac yn rhoi’r Rhufeiniaid ar flaen y gad ym maes technoleg arloesol unwaith eto.

“Rydyn ni wrthi o hyd yn deall gwir botensial iBeacons, a sut y gall y dechnoleg gyfoethogi profiad yr ymwelydd er mwyn cyfrwng darpariaeth gyhoeddus newydd i’r sectorau diwylliant, treftadaeth ac amgueddfaol. Rwy’n falch bod Cymru yn arwain y ffordd gyda’r datblygiad cyffrous hwn.”

 

Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitiaeth:

“Mae project iBeacons ar flaen y gad ym maes technoleg arloesol y sector treftadaeth. Mewn byd mwyfwy digidol, mae datblygu dulliau newydd o gynyddu ymgysylltiad pobl â diwylliant a threftadaeth, a’u mwynhad ohono, yn hanfodol. Rydw i wrth fy modd bod Cymru yn arwain y ffordd. 

Bydd yr app newydd yn rhoi mynediad am ddim i ymwelwyr i adnoddau digidol amlgyfrwng wedi’u cynllunio i ategu a chyfoethogi eu hymweliad ag Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Project peilot yw hwn, a bydd y wybodaeth a’r profiad a gesglir yn gymorth i ddatblygu’r dechnoleg ymhellach er budd sefydliadau treftadaeth diwylliannol eraill.” 

 

Diwedd