Datganiadau i'r Wasg

Dadorchuddio’r Gorffennol: Grant Treftadaeth y Loteri yn cefnogi menter newydd i fanteisio i’r eithaf ar ddarganfyddiadau ar

Bob blwyddyn bydd defnyddwyr datgelwyr metel, ffermwyr a cherddwyr yn gwneud darganfyddiadau archaeolegol allai fod â cymaint i’w ddweud am orffennol Cymru. Ond a fyddwn ni’n gwneud y gorau o’r darganfyddiadau?Mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy Cymru wedi ennill grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i wireddu potensial darganfyddiadau newydd. Dyfarnwyd £349,000 i broject Saving Treasures, Telling Stories i weithio gyda darganfyddwyr a chymunedau, gan ategu casgliadau amgueddfeydd cenedlaethol a lleol ar draws Cymru.

 

Fel rhan o fenter Collecting Cultures Cronfa Dreftadaeth y Loteri, sy’n cefnogi amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac archifau i ddatblygu eu casgliadau drwy gyfrwng projectau caffael strategol, bydd project Saving Treasures, Telling Stories yn creu diwylliant casglu hirdymor fydd yn sail i ddarganfod ac adrodd cyfrifol.

 

Bydd y project Saving Treasures yn creu rhwydweithiau casglu ar draws Cymru, yn galluogi amgueddfeydd i rannu sgiliau, arbenigedd a gwybodaeth a chynnig hyfforddiant i ddehongli casgliadau mewn ffyrdd newydd a strategol. Bydd hefyd yn galluogi i ni dargedu arteffactau newydd i’w prynu er mwyn datblygu’r casgliadau cenedlaethol a lleol dros gyfnod o bedair mlynedd rhwng 2015 a 2019. Bydd hyn yn cynnwys darganfyddiadau o sawl cyfnod, o Oes y cerrig i’r Canol Oesoedd.

 

Bydd y project yn darparu rhaglen dair mlynedd o brojectau cymunedol, gan ddwyn ysbrydoliaeth o ddarganfod arteffactau neu drysor nodedig. Bydd staff a phartneriaid yr amgueddfa yn gweithio gyda grwpiau cymunedol a chynulleidfaoedd i ddatblygu ymatebion i’r dreftadaeth gludadwy ar eu rhiniog. Caiff canlyniadau’r projectau cymunedol eu cyflwyno ar y cyd mewn amgueddfeydd lleol a chenedlaethol, gan greu a dangos amrywiaeth o gyflwyniadau digidol ar-lein.

 

Caiff gwefan fywiog, ddeniadol ei datblygu ar gyfer Cynllun Henebion Cludadwy Cymru fydd yn ganolfan i nodi darganfyddiadau, storïau, llwyddiannau ac ymatebion creadigol i dreftadaeth gludadwy Cymru.

Cynigir bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr newyddiaduraeth neu’r cyfryngau a chyfleon gwirfoddoli ychwanegol yn ymwneud â chasglu, projectau cymunedol a gwaith y Cynllun Henebion Cludadwy.

 

Meddai Peter Wakelin, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru: “Bob blwyddyn mae cannoedd o wrthrychau o bwys archaeolegol yn cael eu darganfod gan ddefnyddwyr datgelwyr metel yng Nghymru, a rhwng 20 a 30 trysor yn cael eu canfod. Mae hyn yn adnodd hanfodol i ddeall y gorffennol”.

 

“Bydd targedu prynu arteffactau newydd ar gyfer casgliadau lleol a chenedlaethol, gweithgareddau casglu, cynnal adnoddau a phrojectau cymunedol yn gwneud newid parhaol. Bydd yn dod â chlybiau datgelwyr metel, amgueddfeydd lleol a chymunedau ym mhob cwr o Gymru ynghyd o amgylch y straeon newydd gaiff eu datgelu.

 

“Bydd y project pum mlynedd yn gymorth i greu a dathlu diwylliant newydd o gasglu treftadaeth archeolegol gludadwy yng Nghymru a bydd y grant hael hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ein helpu i arbed mwy o drysorau, gan adrodd eu straeon i gynulleidfa ehangach ac i genedlaethau’r dyfodol.”

 

Meddai Rachael Rogers, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru: “Rydyn ni wrth ein bodd bod y cynllun hwn yn mynd rhagddo. Mae’n gyfle gwych i amgueddfeydd o bob cwr o Gymru i gydweithio ag Amgueddfa Cymru a Chynllun Henebion Cludadwy Cymru i ddatblygu eu casgliadau archaeoleg. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arbennig at y cyfle i weithio gyda chymunedau lleol.”

 

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru: “Roedd Collecting Cultures yn rhaglen grantiau hynod boblogaidd ac rydym wedi ymateb i’r adborth positif drwy gynnal ail raglen. Dyma’r grantiau Collecting Cultures cyntaf yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sut yr ai sefydliadau diwylliannol ati i gynllunio eu strategaethau casglu hirdymor. Bum mlynedd yn ddiweddarach, pleser yw cyhoeddi ein bod yn medru helpu amrywiaeth ehangach o ymgeiswyr, gan gynnwys Amgueddfa Cymru ar y cyd â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru a Chynllun Henebion Cludadwy Cymru.”

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y project, neu ei gefnogi, cysylltwch â Mark Lodwick ar (029) 2057 3226 neu Adam Gwilt ar (029) 2057 3374.