Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa newydd yn rhoi lle i Dylan Thomas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Bydd arddangosfa newydd sbon, Lle Dylan, yn agor maes o law yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Mae Lle Dylan wedi’i churadu gan yr artist a hanesydd celf sy’n enedigol o Lundain Ceri Thomas, ac mae’n cyflwyno detholiad o ddelweddau a dehongliadau Ceri dros yr 20 mlynedd diwethaf.

'Tillerman (Green and Dying)', oil on board 

Mo(u)rning over Cwmdonkin (manylyn) © Ceri Thomas

Dechreuodd diddordeb Ceri yn y Bardd o’r Bae ym 1994, pan symudodd – trwy hap a damwain – i fyw yn hen gartref Dylan Thomas, 5 Cwmdonkin Drive. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth nodyn drwy’r drws a ysbrydolodd Ceri i greu cyfres o weithiau sy’n gysylltiedig â’r bardd a’r gweithiau hyn fydd i’w gweld yn yr arddangosfa yn Oriel y Wal Goch, rhwng dydd Sadwrn 11 Hydref a dydd Sul 30 Tachwedd.

Mae Ceri’n angerddol dros ddiwylliant gweledol modern a chyfoes de Cymru. Mae wedi curadu arddangosfeydd a chyhoeddi llyfrau ac erthyglau ar artistiaid unigol, grwpiau o artistiaid a sîn gelf y De. 

Mae ganddo ddiddordeb arbennig yn y berthynas rhwng celf a lle, cynrychioli’r unigolyn a defnyddio’r dychymyg a’r cof. Mae’n ddealladwy felly, fod milltir sgwâr Dylan yn ffynnon gyfoethog o ysbrydoliaeth iddo. 

Prif waith yr arddangosfa yw Mo(u)rning over Cwmdonkin (1997-98), dehongliad maint lawn o bafin carreg gwreiddiol tu flaen i gartref Dylan. Roedd y nodyn ddaeth drwy’r drws ym 1994 yn dweud y byddai tarmac yn cael ei roi yn ei le. Llwyddwyd i achub y pafin, diolch i ymgyrch dan arweiniad Ceri. Dyma a osododd tôn ddramatig y gwaith sydd hefyd yn cyfeirio at y Rhyfel Byd Cyntaf a rhyfeloedd eraill ers hynny. 

Ymhlith y gweithiau eraill mae ffotograffau a gymerwyd ym 1994 a 2005 a dau bortread Tŷ-tea, Guard-gardd (Weak or Strong?) (1996-98) a Tillerman (Green and Dying) (2010-11). Cafodd y cyntaf, sydd â theitl arall sy’n chwarae ar eiriau, ei gynhyrchu ar yr un pryd â Mo(u)rning over Cwmdonkin, dyna’r rheswm dros yr is-deitl. Mae gan yr ail waith is-deitl sy’n cyfeirio at Dylan hefyd. Gwelwn ddefnydd clyfar Ceri o ddyfrlliwiau ar ei orau, gan gyfeirio at bedair blynedd allweddol ym mywyd Dylan. Hefyd, mae’n ailddefnyddio ffont a ddaw o arwydd stryd haearn bwrw gwreiddiol Cwmdonkin Drive. 

Meddai Andrew Deathe, Swyddog Arddangosfeydd a Rhaglenni’r Amgueddfa: “Rydym wrth ein bodd o groesawu gwaith Ceri, sy’n cyd-fynd yn dda a dathliadau Gŵyl Dylan Thomas eleni (27 Hydref-9 Tachwedd - sef dyddiadau geni a marwolaeth y bardd). 

“Mae’n gyfle gwych arall i ni gynnig cipolwg gwahanol i’n hymwelwyr ar fywyd a gair y bardd enwog.” 

Medd Ceri am ei waith: “A minnau’n gyn-breswylydd yn rhif 5 Cwmdonkin Drive, mae’n bleser gen i arddangos fy ngwaith celf a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas, yn ei dref enedigol ef a’m dinas fabwysiadol i. Yn ystod fy 21 mlynedd yn Abertawe, cefais gwrdd â dau o’i gyfoedion eithriadol o’r Grŵp Kardomah, Fred Janes a Charlie Fisher. Rwy’n gobeithio fod rhyw gymaint o’u hysbryd nhw, a Dylan, yn fy ngwaith.” 

Bydd Lle Dylan yn agor yn swyddogol i ymwelwyr ar ddydd Sadwrn 11 Hydref gydag anerchiad arbennig gan yr Athro Peter Stead, Llywydd Gwobr Dylan Thomas am 3pm. 

Nodiadau

  • Ar ddydd Sadwrn 22 Tachwedd, bydd Ceri yn sgwrsio gyda bywgraffydd Dylan, Hilly Janes am Lle Dylan. Mae’r sgwrs am ddim ac yn cychwyn am 11am.
  • Ar ôl y sgwrs, bydd Hilly yn trafod ei thad, yr artist Alfred Janes, y mae ei bortread o’i gyfaill y bardd hefyd i’w gweld yn yr Amgueddfa. Mae’r sgwrs am ddim ac yn cychwyn am 2pm. Does dim rhaid cadw lle.

DIWEDD

  • Bydd Lle Dylan i’w gweld yn Oriel y Wal Goch rhwng dydd Sadwrn 11 Hydref a dydd Sul 30 Tachwedd.

Mae delweddau ar gael trwy drefniant. Mae Ceri hefyd ar gael ar gyfer cyfweliadau, ffoniwch Marie Szymonski ar (029) 2057 3616 i drefnu.

  • Mae arddangosfeydd eraill sy’n gysylltiedig â Dylan Thomas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn cynnwys:

Geiriau Dylan: Taith Lenyddol y Glannau – cyfres o ddyfyniadau enwog o weithiau Dylan a ddewiswyd gan y bardd ac arbenigwr ar Dylan Thomas, Peter Thabit Jones (tan fis Mawrth 2015).

Dylan Thomas gan Alfred Janes – cyfle arbennig i weld portread o Dylan Thomas gan ei ffrind Alfred Janes (dydd Sadwrn 11 Hydref 2014-1 Chwefror 2015).