Datganiadau i'r Wasg

Penodi Ymddiriedolwr Newydd Amgueddfa Cymru

Mae Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y penodwyd Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd yr Amgueddfa.

Penodwyd Dr Hywel Ceri Jones gan yr Amgueddfa yn Ymddiriedolwr am dymor o bedair blynedd gan gychwyn ar 1 Medi 2014.

 

Ar hyn o bryd, mae Hywel Ceri Jones yn gadeirydd Bwrdd Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Hawliau Cyfartal ac Ymddiriedolaeth Ffederal dros Addysg ac Ymchwil. Mae wedi bod yn gynghorydd Ewropeaidd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac wedi cadeirio tasglu Cymru gyfan i baratoi’r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer ei gyfrifoldebau Ewropeaidd.

 

Bu Hywel yn Gyfarwyddwr Addysg, Hyfforddiant a Pholisi Ieuenctid y Comisiwn Ewropeaidd a chynrychiolodd y Comisiwn yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, UNESCO a Chyngor Ewrop. Yn rhinwedd ei waith yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyflogaeth, polisi cymdeithasol a chysylltiadau diwydiannol, roedd yn benodol gyfrifol am weithrediad Cronfa Gymdeithasol Ewrop.

 

Ac yntau’n Gymro Cymraeg, mae’n aelod o Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol a bu’n is-lywydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

 

Meddai Elisabeth Elias: “Mae’n bleser gen i groesawu Dr Hywel Ceri Jones i Amgueddfa Cymru. Mae’n uchel ei barch yn ei faes, ac yn ddi-os, bydd ei brofiad a’i arbenigedd o fudd aruthrol i’r Ymddiriedolwyr ac i Amgueddfa Cymru. Carem hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i holl aelodau’r bwrdd am eu hymroddiad parhaus i waith yr Amgueddfa.”

 

 

Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitiaeth:

 

 

“Rwy’n falch iawn fod yr Amgueddfa wedi penodi Ymddiriedolwr newydd o’r radd flaenaf, Dr Hywel Ceri Jones. Bydd ei brofiad a’i arbenigedd, yn enwedig o ran polisi a nawdd Ewropeaidd a’r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil, o fudd aruthrol i’r Amgueddfa dros y blynyddoedd nesaf.”

Ni chaiff aelodau'r Bwrdd dâl am eu gwaith, ond caiff unrhyw gostau teithio a chostau cynhaliaeth rhesymol eu had-dalu. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn a disgwylir i'r Ymddiriedolwyr fod yn aelodau o is-bwyllgorau hefyd.

Penodwyd yr unigolyn gan Lywydd Amgueddfa Cymru yn unol â Chod Ymarfer Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus.

 

Diwedd