Datganiadau i'r Wasg
Hwyl yr hydref yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Dyddiad:
2014-10-15Ah, yr hydref, pan fo’r awyr yn llawn arogl cawl pwmpen, tan gwyllt a... physgod?! Bydd ymwelwyr ag Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru dros hanner tymor (27-31 Hydref) yn gweld ochr ddrewllyd, afiach y Rhufeiniaid mewn gweithdai ‘Ych a fi!’ (11am – 4pm gyda’r drysau’n cau am 3.30pm. Codir tâl o £2 y plentyn). Allwch chi stumogi’r diwrnod?
Mae canfod rhywle i ddiddanu’r plant dros y gwyliau yn broblem i bob teulu, a pha le gwell nag Amgueddfa lle gallan nhw wneud llanast wrth chware a dysgu?!
Dywedodd y Swyddog Digwyddiadau, Victoria Le Poidevin: “Mae’n gyfle i blant a theuluoedd ddysgu am fwyd a meddyginiaeth Rufeinig mewn modd gwahanol. Mae’r gêm ‘Dewis Drewllyd’ yn ofnadwy ac yn gwneud i chi brofi arogleuon da a drwg o oes y Rhufeiniaid!”
Yn goron ar y cyfan, bydd yr Amgueddfa yn cynnal Parti Calan Gaeaf ar 31 Hydref, 6-8pm, lle bydd Nemesis yn codi ofn ar ymwelwyr yn y deml, yr ellyllon Lemures yn poenydio pobl yn yr ardd a chyfle i hela ystlumod. Cofiwch am y gystadleuaeth gwisg ffansi – bydd marciau uchel am wisgoedd wedi gwneud â llaw! Tocynnau i’r parti yn £3.50 y pen ac ar gael drwy ffonio’r Amgueddfa ar (029) 2057 3550.
Dywedodd Rheolwr yr Amgueddfa, Dai Price: “Calan Gaeaf yw ein hoff nos o’r flwyddyn. Rydyn ni’n mwynhau meddwl am gemau a gweithgareddau ofnadwy i ddiddanu teuluoedd, ac mae’n gyfle i blant fwynhau naws y noson mewn lleoliad diogel.”