Datganiadau i'r Wasg

Trenau Bach. Yn galw yn Amgueddfa Wlân Cymru

Byddwn ni’n codi stêm yn Amgueddfa Wlân Cymru rhwng 10am a 3pm ar ddydd Sadwrn 1 Tachwedd, gyda Diwrnod Modelau Rheilffyrdd. Bydd yn gyfle i ymwelwyr weld modelau 20tr o reilffordd Cilgeran i Aberteifi ac un o Faenorbŷr yn Sir Benfro.

Bydd gan Glwb Modelwyr Caerfyrddin arddangosfa lonydd o nifer o fodelau diddorol, gan gynnwys trenau a modelau i’r plant, a bydd yr Amgueddfa yn arddangos y trac Tomos a Pyrsi rhyngweithiol.

Ymhlith y gweithgareddau eraill bydd crefftau i’r teulu cyfan, stondinau ceir Corgi a Matchbox, a chyfle i ddysgu mwy am reilffyrdd hanesyddol Aberteifi a Chilgeran.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Ann Whittall, Rheolwr yr Amgueddfa: “Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at benwythnos llawn hwyl i’r teulu cyfan.

“Mae cysylltiad mor gryf rhwng y rheilffyrdd a datblygiad y diwydiant gwlân ddiwedd y 19eg ganrif, bydd yn gyfle gwych i ddathlu’r dau ddiwydiant yn yr Amgueddfa.”

Yn ogystal â mwyhau’r digwyddiad, gall ymwelwyr hefyd ddysgu mwy am hanes cyfoethog diwydiant gwlân Cymru. Gallant weld peiriannau traddodiadol wrth eu gwaith a chael cyfle i ddilyn y Stori Wlanog – taith boblogaidd sy’n dilyn y broses o greu gwlân, o ddafad i ddefnydd.

Os ydych chi’n berson crefftus, neu am hamddena wrth y stondinau modelau, galwch draw dros y penwythnos.